Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o bob ceiniog o elw a wna'r meistri yn awr yn fwy nag a wnaent cyn y rhyfel, cymer y Llywodraeth ddimai at bwrpas y Wladwriaeth.

Er yn anfoddlawn, cydsyniodd yr Undebau Llafur a'r cais ar ol aml i gynadledd a Lloyd George. Cafwyd engraifft o anhawsderau'r Llywodraeth a Lloyd George yn streic fawr Glowyr Deheudir Cymru ar ganol y rhyfel. Yr oedd y mesur a ddygwyd i'r Senedd gan Lloyd George, "Mesur Cyfarpar Rhyfel," yn rhoi awdurdod a gallu eithriadol, ac o'i gamddefnyddio, gormesol iawn, yn ei law. Yn mhlith pethau eraill byddai'r neb a elai ar streic fel ag i beryglu gallu unrhyw weithdy i droi allan gyfarpar rhyfel fel o'r blaen, yn agored i gael ei erlyn a'i ddirwyo yn drwm. Trefnid fod Byrddau Cyflafareddol Gorfodol i setlo pob achos o annghydfod rhwng meistr a gweithiwr, ond er mai rhwydd a fyddai dirwyo neu gosbi un gweithiwr anufudd, neu ddwsin, neu ugain, peth gwahanol iawn a fyddai cosbi, neu geisio cosbi mil, neu ddeng mil, neu ddau can mil o honynt a ddeuent allan ar streic gyda'u gilydd. Aeth yn streic yn holl lofeydd Deheudir Cymru, a daeth dau can mil o'r glowyr allan. O dan y ddeddf a basiwyd drwy'r Senedd gan Lloyd. George ei hun, rhaid oedd cosbi'r dynion hyn, ond rhwyddach dweyd mynydd na myned drosto, a rhwyddach bygwth y glowyr mewn deddf na chosbi cynifer o honynt o dan y ddeddf hono, felly, yn lle cario allan ofynion ei gyfraith ei hun, aeth Lloyd George i'r Deheudir i siarad a'r glowyr. Setlwyd y streic—drwy i Lloyd George roddi i'r glowyr yn ymar-