Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ferol bob peth a geisient pan aethant allan ar streic. Fel y dywedai un o arweinwyr y glowyr: "Nid oedd angen streic o gwbl. Gallesid fod wedi setlo'r holl gwestiwn ar y dechreu ar y telerau a roddodd Lloyd George i ni ar y diwedd."

Y trydydd gelyn oedd ganddo i'w wynebu oedd y tafarnwr. Cafwyd profion fod y ddiod feddwol yn gwneyd mwy o niwed na dim arall i'r dynion a'r gwaith yn ngweithdai cyfarpar; yn achosi colli amser, ac yn lleihau yn ddirfawr allu'r gweithiwr i droi gwaith allan yn brydlon a chyflym. Yn gynar yn y flwyddyn eleni awgrymodd Lloyd George i'r Llywodraeth ddwyn Deddf Gwaharddiad i weithrediad dros gyfnod y rhyfel. Derbyniwyd yr awgrym gyda brwdfrydedd gan y wlad. Pe tae'r Llywodraeth wedi dwvn y Mesur i mewn y pryd hwnw cawsai ei basio yn rhwydd gyda chymeradwyaeth y wlad, ond oedwyd nes rhoi cyfle i'r tafarnwyr drwy'r deyrnas drefnu eu rhengoedd hwythau i'r ymgyrch, a daeth y gwrthwynebiad mor fygythiol nes na feiddiodd y Llywodraeth ddwyn y mesur yn mlaen. Collwyd felly gyfle na welir eto ei gyffelyb i wneyd gwaharddiad y diodydd meddwol yn gyfraith Prydain. Ond dywed y ddiareb fod dau gynyg i Gymro. Anturiodd Lloyd George eilwaith, a llwyddodd yr ail dro. Byrhawyd oriau gwerthu diodydd meddwol yn yr ardaloedd lle y ceid gweithdai cyfarpar. Trefnwyd yr oriau hyny yn y fath fodd fel nad ymyrent ond i'r graddau lleiaf a gwaith y dynion.

Er lleied hyn, cyfarfyddodd a gwrthwynebiad annghymodlawn. Ymgyngreiriodd y tafarnwyr a