Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"O Arglwydd Mawr! Yr ydym yn synu atat am oddef o honot hyd yn nod Lloyd George i dori Dy Sabboth sant- aidd Di drwy gynal cwrdd cyhoeddus ar Dy Ddydd Di."

Hyd yn ddiweddar gweithiai yr holl weithdai cyfarpar ar y Sul fel ar ddiwrnod arall er mwyn troi allan gymaint o waith ag oedd yn bosibl, ond mae pwyllgor o feddygon newydd wneyd ymchwiliad i'r mater, ac wedi cael allan y gwneir mwy o waith gan ddyn wrth weithio chwe niwrnod, a gorphwys ar y seithfed dydd, nag a wna wrth weithio saith dydd yn mhob wythnos. Felly gorchymyn Lloyd George i'w ganoedd o filoedd o weithwyr heddyw yw: "Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith, a'r seith fed dydd y gorphwysi."

Erbyn heddyw mae yn agos i ddwy fil o weithdai mawr drwy'r deyrnas o dan reolaeth uniongyrchol. Lloyd George, yn troi allan gyfarpar rhyfel. Yn y rhai hyn oll mae pob gweithiwr o dan lywodraeth filwrol. Ni cha adael ei waith, na symud i le arall, ond yn unig trwy ganiatad y Llywodraeth. Os esgeulusa ei waith, os erys ymaith oddigerth o dan orchymyn meddyg, os peidia a gwneyd cymaint o waith ag y bernir y medr wneyd, bydd yn agored i gosb. Anhygoel yn mron yw. gweled hyn mewn gwlad fel Prydain a ymffrostia yn rhyddid ei deiliaid. Ond trwy gydsyniad cyfangorff y gweithwyr drwy eu harweinwyr, yn unig y llwyddwyd i osod y caethiwed hyn arnynt, er mwyn enill y rhyfel. Mewn canlyniad i hyn, nid oes brinder mwyach ar gyfarpar. Dywed Arglwydd Kitchener fod Prydain heddyw yn medru cynyrchu digon o gyfarpar o bob math i gyfarfod ag angenion deng miliwn o filwyr!