Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydd pedair miliwn o fyddin Prydain o dan arfau y gwanwyn nesaf, a chwe miliwn o filwyr newydd yn myddin Rwsia, a bydd Prydain yn gofalu am gyfarpar iddynt oll!

Er i'r glowyr orchfygu Mesur Cyfarpar Lloyd George adeg y streic, eto cyffyrddwyd a'u calonau gan ei anerchiadau brwd. Mae rhai o'r pethau a ddywedodd yn haeddu cael eu hysgrifenu a phin o haiarn ac o blwm yn y graig dros byth. Mewn araeth fawr yn Llundain i gynrychiolwyr glowyr Prydain, dywedodd:

"Glo wedi ei ddistyllio yw'r gwaed sydd yn rhedeg drwy wythienau pob diwydwaith yn y deyrnas heddyw. Y Brenin Glo sydd yn Arglwydd Goruchaf ar bob diwydwaith mewn heddwch a rhyfel. Yn y rhyfel mae glo yn fywyd i ni, ac yn angeu i'r gelyn. Glo sydd yn gwneyd defnyddiau rhyfel, yn ogystal a'r peirianau sy'n eu cludo. Golyga'r glo y dur, a'r reiffl, a'r magnelau. Rhaid cael glo i wneyd y shells, a glo i'w llenwi, glo sydd yn eu cludo i faes y frwydr i gynorthwyo ein milwyr yno. Glo yw'r gelyn mwyaf ofnadwy, a'r cyfaill galluocaf o bawb. Lladdwyd neu glwyfwyd 350,000 (erbyn hyn maent yn 500,000) o filwyr Prydain gan lo Germani—drwy fod glowyr Westphalia mewn cydweithrediad a pheirianwyr Prwsia, yn gosod eu holl egni at wasanaeth eu gwlad. Glo achosodd y lladd a'r clwyfo hyn. Ie, a phan welwch y moroedd yn glir, a baner Prydain yn chwifio heb neb i'w herio ar holl foroedd y byd, pan welwch faner Germani wedi gorfod cilio oddiar wyneb y dyfnder yn mhob man, pwy wnaeth hyn? Glowyr Prydain yn cynorthwyo morwyr Prydain, a'i gwnaeth!"

Wedi dwyn i'w meddyliau bwysigrwydd galwedigaeth y glowr, dygodd adref i'w cydwybodau y ddyledswydd orphwysai ar eu hysgwyddau yn ngwyneb angen eu gwlad: