oedd Canada yn talu tri chan miliwn o ddoleri yn fwy am nwyddau a brynid ganddi o wledydd eraill, nag a dderbyniai am nwyddau a werthid ganddi i wledydd tramor. Pan wneir y ffigyrau i fyny am y flwyddyn 1915, ceir y bydd Canada wedi gwerthu llawer mwy nag a brynodd, ac er nas gellir cyfrif yr oll o'r gwahaniaeth i ymweliad D. A. Thomas, eto rhaid y bydd cyfran helaeth iawn o elw Canada ar waith y flwyddyn i'w briodoli i hyny. Ac os yw hyn yn wir am Canada, sicr yw y bydd yr elw o'r drafnidiaeth i'r Unol Dalaethau yn llawer iawn mwy, pe ond yn unig am y rheswm fod cyfleusderau a chynyrch ei gweithdai o bob math. gymaint yn helaethach nag eiddo Canada.
Ac nid yr ardaloedd gweithfaol yn rhanau dwyreiniol y dwy wlad yn unig sydd wedi manteisio. Ceir fod ffermwyr y Gorllewin wedi cael gwell marchnad nag a gawsant erioed. Dengys ffigyrau swyddogol fod y Canadian Pacific Railway wedi gwneyd, yn y tri mis Medi, Hydref a Thachwedd, 1915, fwy o fusnes mewn cludo yd nag a wnaed mewn unrhyw dri mis gan unrhyw reilffordd yn y byd erioed o'r blaen. Cyfrifir fod y rheilffordd hono yn unig wedi cario ar gyfartaledd mil o fwsieli (1,000 bushels) o rawn, gwenith, &c., bob mynyd o bob dydd am y 90 diwrnod hyny. Nid oes angen pwysleisio effaith a dylanwad masnach mor helaeth ar gylchoedd eraill cymdeithas heblaw ffermwyr Canada.
Eithr a chyfarpar rhyfel yn hytrach nag a chynyrch amaethyddol yr oedd a fyno cenadaeth D. A. Thomas ar ran Lloyd George, ac os oedd dyn ar wyneb daear a