Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y tonau wedi suddo'r llong cyn iddynt gael eu hachub. Yr oedd D. A. ei hun, yn ogystal ag Arglwyddes Wentworth, yn dyoddef oddiwrth effeithiau hyn pan ddaeth y cais am ei wasanaeth i'w wlad. Ond ni phetrusodd. Er i'r meddyg ddweyd y peryglai ei fywyd wrth ymgymeryd a thaith mor fawr yn ei gyflwr ar y pryd, ymgymerodd a'r Genadaeth, a chychwynodd yn ei ol i New York yn ddiymdroi.

Gwnaeth D. A. Thomas gystal gwaith yn America ag a wnaeth Lloyd George yn Mhrydain i sicrhau adgyflenwad o gyfarpar o bob math yn yr Unol Dalaethau ac yn Canada. Tra y cedwir, hyd yn hyn, fanylion ei weithrediadau yn y ddwy wlad yn gyfrinach, gwyddis ei fod wedi gosod archebion aruthrol yn y ddwy wlad, a'u bod yn cyflenwi angen Ffrainc yn ogystal a Phrydain, yn gymaint a bod Prydain wedi ymgymeryd a gweithredu, mewn cyfeiriadau neillduol dros ei Chyngreiriaid. Nid oes manylion am swm y gwahanol fathau o gyflenwadau a geir o'r Unol Dalaethau nac o Canada fel ffrwyth cenadaeth D. A. Thomas, ond sicr yw eu bod wedi rhoi bywyd newydd yn llaw-weithfeydd y ddwy wlad. Mae wedi bod yn iachawdwriaeth gyllidol i Canada, ac yn ddiameu wedi cadw aml i anturiaeth weithfaol yn yr Unol Dalaethau yn fyw, ac wedi rhoi adgyfodiad i eraill oeddent naill ai wedi marw neu ar ddarfod am danynt. Dengys ffigyrau cyllid Canada y graddau helaeth i'r rhai y mae hi wedi manteisio ar genadaeth D. A. Thomas. Dengys adroddiad Gweinidog Cyllid Canada fod y wlad hono wedi newid dau fyd mewn ystyr arianol. Ddwy flynedd yn ol yr