D. A. Thomas, oedd y naill; ei gyd-aelod, ei gydgenedlaetholwr, y gwr ar ysgwydd yr hwn y disgynodd mantell a deuparth o ysbryd Lloyd George fel Ymreolwr Cymreig, Mr. E. T. John, yr Aelod Seneddol dros Ddwyreinbarth sir Ddinbych, oedd y llall. Syrthiodd y dewisiad ar y cyntaf, yn benaf am y ffaith ei fod ar y pryd mewn ymdrafodaeth bersonol a nifer o bersonau a chwmniau masnachol blaenaf yr Unol Dalaethau a Canada, yn nglyn a phrynu tiroedd ac eiddo mwnawl helaeth.
Yn angen Prydain annghofiodd y ddau eu hen annghydwelediad. Gofynodd Mr. Lloyd George i Mr. D. A. Thomas a weithredai efe dros Brydain yn yr Unol Dalaethau ac yn Canada fel Llysgenad masnachol arbenig. Cydsyniodd yntau yn ddiymdroi, gan roddi felly engraifft nodedig arall o'r ysbryd sydd yn medd- ianu pob dosbarth yn Mhrydain yn nglyn a'r Rhyfel. Yr oedd yr amgylchiadau yn eithriadol. Yr oedd D. A. Thomas newydd ddychwelyd o'r America, lle yr oedd wedi bod am fisoedd lawer am y trydydd tro o fewn tair neu bedair blynedd, yn nglyn a'r materion masnachol perthynol i'w gwmni, y cyfeiriwyd atynt uchod. Yr oedd ei brif reolwr yn Mhrydain, Mr. Llewelyn, eisoes wedi cael ei alw i wasanaethu'r Llywodraeth yn Ngweinyddiaeth Cyfarpar, a mwy o angen nag erioed am bresenoldeb ac arolygiaeth bersonol D. A. Thomas yn y fasnach enfawr sydd ganddo yn Nghymru. Yr oedd ef, a'i unig ferch, yr Arglwyddes Wentworth, yn mhlith y teithwyr ar y Lusitania anffodus, ac wedi prin dianc a'u bywydau, gan fod y ddau wedi bod am oriau