hono linellau deddfwriaeth oedd a wnelo a hwynt. Am yr un rheswm yr aeth i Germani i gael gweled yno sut y gweithiai cyfundrefn y wlad hono o Yswiriant Blwydd-dal i'r Hen, Rheoli Rheilffyrdd a Glofeydd gan y Wladwriaeth, a'r cyffelyb.
Gwelir yn yr hyn a wnaeth fel Gweinidog Cyfarpar ei syniad uchel am allu America i gynorthwyo Prydain yn y Rhyfel Mawr dros ryddid dyn. Pan benodwyd ef yn Weinidog y Cyfarpar, trodd ei lygad at America fel ffynonell a allai wneuthur i fyny ddiffyg gweithdai Prydain. Dywedai mewn effaith: "Er fod yr Arlywydd yn anmharod i sefyll ochr yn ochr a ni yn y rhyfel dros wareiddiad, rhaid fod ei gydymdeimlad ef, a phawb teilwng o'r enw dyn yn y Weriniaeth Fawr, gyda ni yn ein hymdrech ofnadwy yn erbyn gormes a militariaeth sydd yn peryglu rhyddid pob cenedl yn y dyfodol. Ac mae adnoddau celfyddydol a gweithfaol yr Unol Dalaethau mor enfawr, fel y dylasem yn sicr allu sicrhau adgyflenwadau gwerthfawr oddi yno."
Nid cynt y daeth y syniad i'w feddwl nag y chwiliodd am ffordd i'w weithio allan. Gwelodd y rhaid cael dyn o safle, o brofiad, ac o allu tu hwnt i'r cyffredin i gynrychioli Gweinidogaeth Cyfarpar yn y genadaeth bwysig hon. Gorweddai ei ddewis rhwng dau ddyn, a'r ddau yn Gymry, oeddent eisoes wedi enill lle yn rheng flaenaf tywysogion masnach y byd, a'r ddau yn meddu eiddo gweithfaol eisoes yn yr Unol Dalaethau, y naill yn specialist mewn glo, a'r llall yn gymaint specialist mewn haiarn a dur. Ei hen gyfaill, ei hen gyd-wrthryfelwr, ei hen gyd-ymgeisydd a'i wrthwynebydd, Mr.