Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hytrach na Breniniaethwr ydoedd ef y pryd hwnw, a dymunai gael gweled ei hun beirianwaith llywodraeth, gwladweiniaeth, a chymdeithasiaeth y wlad. Meddai pob peth y wlad swyn arbenig iddo. Gan deimlo mor angerddol ag ydoedd ar gwestiwn yr Eglwys a'r Tir yn Nghymru, edrychai ar yr Unol Dalaethau, "gwlad y sefydliadau rhydd" fel y galwai hi, fel paradwys wleidyddol a chymdeithasol, lle y caffai pob dyn gyffelyb fantais, gan nad beth a fyddai ei gredo crefyddol neu ei safle gymdeithasol. Tra yn gredwr cryf yn effeithiolrwydd y peiriant etholiadol oedd gan y ddwy Blaid Fawr, y Democratiaid a'r Gwerinwyr, nid oedd yn edmygu rhai o ddulliau a ffrwythau y peirianwaith hwnw. Credai y cawsai wersi pwysig mewn gwleidiadaeth a chyfundrefnaeth pe medrai weled pethau drosto ei hun yna, ac astudio a deall eu dull o weithio. Yr oedd cwestiynau mawr cymdeithasol yn llenwi ei fryd, perthynas cyfalaf a llafur, bywyd y gweithiwr, tai y gweithwyr yn y dref, amgylchiadau'r tlodion a'r hen bobl angenus, a llawer o broblemau cyffelyb. Gwyddai y rhaid fod gwahaniaeth hanfodol rhwng y pethau hyn a'u cyffelyb yn America i'r hyn oeddent yn Nghymru, a chredai y caffai oleuni newydd arnynt o'u gweled ei hunan mewn ymarferiad. Canys fel y gwelwyd mewn penodau blaenorol, credai bob amser mewn myned ei hunan i lygad y ffynon, a gweled tarddle pob peth. Dyna paham, pan aeth gyntaf yn Weinidog y Goron, y mynai gael ymgyngoriad personol a'r gweithwyr a'u cyflogwyr, a'r marsiandiwyr a'r cludwyr, a'r morwyr ac a pherchenogion y llongau, cyn trefnu o