elod, cael Trysorfa Genedlaethol fo'n ddigon i gyfarfod costau ymladd ac enill pob etholaeth yn Nghymru, ac i dalu cyflog i gadw'r aelodau hyny yn deilwng yn y Senedd. Pe caem ni gan Ymneillduwyr Cymru i gyfranu at eu politics fel y cyfranant at eu capeli, buasai yn ddigon rhwydd, ond nid yw'r Cymro eto wedi dysgu talu am ei bolitics fel y mae am ei grefydd. Eto i gyd, os medr y Gwyddel greu trysorfa, paham na fedr y Cymro? Mae'r teimlad cenedlaethol mor fyw yn Nghymru ag ydyw yn y Werddon. Mae'r Cymro oddi cartref yn caru Cymru Wen mor gynes ag y car y Gwyddel oddi cartref yr Ynys Werdd, a cheir, yn Unol Dalaethau'r America, ugeiniau o filoedd o Gymry gwladgarol, cynes galon, yn mhob cylch o gymdeithas. Ceir cyfoethogion o Gymry yn amlach yno na chyfoethogion o Wyddelod, ac os yw gweithwyr Gwyddelig, a merched gweini o Wyddelesau wedi ateb mor hael ac mor barod i apeliadau mynych Parnell, ai tybed na etyb Cymry'r America i apel cyffelyb oddiwrthym ninau os awn at y gwaith o ddifrif, yn benderfynol, a chyda chynllun perffaith."
Dyna'r Genadaeth Genedlaethol at Gymry'r America a laddwyd yn yr esgoreddfa drwy fethiant Lloyd George i sefydlu Cyfundrefn Genedlaethol Cymru Fydd fel peiriant etholiadol Cymru Gyfan. Siom bersonol ydoedd iddo ef fethu cyflawnu y pryd hwnw ei fwriad o dalu ymweliad a'i gydgenedl yn yr America. Yr oedd yn awyddus i astudio amryw bethau yn yr Unol Dalaethau yn dal cysylltiad a gwleidyddiaeth, ac a bywyd cymdeithasol. Gwerinwr, yn