Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw hyd o fewn ychydig fisoedd yn ol, parhaodd y rhwyg rhwng y ddau y bu gynt mor gu y naill y llall.

Cyn dygwydd o'r rhwyg hwn, a phan yr ymddangosai yn debyg y llwyddai i sefydlu Cyfundrefn Cymru Fydd fel peiriant etholiadol cydnabyddedig Cymru gyfan, yr oedd Lloyd George wedi arfaethu codi Trysorfa Genedlaethol ar gynllun Trysorfa'r Blaid Wyddelig. Yr oedd yn ei fwriad, ar ol dechreu yn Nghymru, wneyd apel at Gymry America. Ymgyngorasom yn nghylch "Cenadaeth Genedlaethol dros Ymreolaeth i Gymru" at Gymry'r America. Y syniad oedd iddo ef ei hun, gyda Mr. Herbert Lewis, ac eraill o'r Aelodau Cymreig o gyffelyb ffydd genedlaethol, groesi'r Werydd ar daith genadol drwy'r Unol Dalaethau, gan apelio at wladgarwch Cymry'r Unol Dalaethau. "Chawn ni byth," meddai, "Blaid Gymreig Annibynol hyd nes y medrwn efelychu'r Gwyddelod. Mae dau beth yn hanfodol cyn y gellir gwneyd hyny. Rhaid i ni allu eu hethol i'r Senedd, a'u cadw yno; a'u gwneyd yn annibynol ar Drysorfa'r Blaid Ryddfrydol yn Lloegr, ac ar lwgrwobrwyaeth swydd o dan y Weinyddiaeth. Mae trysorfa'r Blaid Ryddfrydol yn Lloegr yn cyfarfod a threuliau etholiad ymgeisydd Seneddol o dan amodau neillduol, ond pan dderbynio ymgeisydd gymorth o'r fath gesyd ei hun yn gaeth i'r Blaid, ac i Chwips ei Blaid. Cyll ei annibyniaeth yn llwyr. Nid buddianau ei etholwyr fydd yn llywodraethu ei bleidlais mwyach, eithr angenion y Blaid a dalodd dreuliau ei etholiad. Os ydym ni, ynte, i gael Plaid Gymreig, rhaid i ni fod yn barod i wneyd fel y gwna'r Gwydd-