gyfeillgarwch rhyngddo a D. A. wedi parhau yn ddifwlch, a Mab y 'Sguborwen wedi aros yn Aelod Seneddol, ac wedi ymroddi i bolitics fel yn gwnaeth ei gyfaill o Griccieth. Heb fyned i fanylu gellir dweyd gyda sicrwydd y buasai dau Gymro yn lle un yn adnabyddus dros y cyfanfyd heddyw fel gwladweinydd galluog a llwyddianus.
Wedi bod yn gyfeillion mynwesol am rai blynyddoedd, aeth yn rhwyg rhwng y ddau ar gwestiwn Trefniant Gwleidyddol Cymru. D. A. Thomas oedd "Boss" y Deheudir; efe a lywodraethai Gyngrair Rhyddfrydol y De. Mynai Lloyd George gael "Cymru Gyfan" o dan reolaeth un Pwyllgor neu Gyngor Canolog. Ameuai D. A. a fyddai hyny yn ymarferol, o herwydd anhawsderau teithio yn Nghymru. Credai yntau, fel Lloyd George, yn gryf mewn Plaid Gymreig Annibynol. Parhaodd yn y ffydd hono yn hwy na Lloyd George. Hono yw ei gredo heddyw. Ond methodd y ddau gyduno ar gynllun o gydweithrediad wrth ddyfeisio gwelliantau yn y peiriant etholiadol yn Nghymru. Credai Mr. Lloyd George gan ddarfod iddo lwyddo i ddifodi Cyngrair Rhyddfrydol y Gogledd ar waethaf Mr. Bryn Roberts, y medrai wneyd yr un peth a Chyngrair y De ar waethaf D. A. Thomas. Camgymerodd yn fawr. Methodd ladd Cyngrair y De, er iddo ei wanhau yn ddirfawr. Yn anffodus i Genedlaetholdeb Cymru gwanhaodd ar yr un pryd ei hoff beiriant gwleidyddol ei hun, Cymru Fydd (gwel Penod V). O'r dydd