Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Diwygwyr o anianawd yw y ddau, ac ymladdwyr di-ail a di-ildio. Cara pob un o'r ddau ei wlad yn angerddol. Medda pob un o'r ddau ddylanwad yn mron anfesurol ar y gweithiwr yn Nghymru. Nid oes neb, efallai, wedi beirniadu Arweinwyr y Glowyr yn llymach, nac wedi eu cystwyo yn drymach, nag a wnaeth D. A. dro ar ol tro. Nid oes feistr glo yn y deyrnas a ofnir, a berchir, ac a gerir, yn fwy gan y glowyr na D. A. Thomas. Medda ef yn bersonol fwy o ddylanwad ar lowyr Morganwg na holl Bwyllgor Cyngrair Glowyr y Deheudir gyda'u gilydd. Ni apeliodd erioed yn ofer am eu pleidlais. Dychwelwyd ef bob tro mewn etholiad ar ben y pol gyda mwyafrif gorlethol. Pe dymunai ddychwelyd i'r Senedd yfory, caffai ddrws agored yn mron lle y mynai yn myd y glowyr. Cymaint yw ei ddylanwad, er nad yw ei hun heddyw yn y Senedd, fel y gall benderfynu yn ymarferol, pe y dewisai wneyd, pwy ga gynrychioli o leiaf bedair os nad pump o etholaethau Deheudir Cymru. Cyfrifir ef fel "the smartest business man" a gododd Cymru erioed. Dechreuodd fel perchen un lofa gymarol fechan. Heddyw efe yw "Coal King" cydnabyddedig Cymru. O fewn y blynyddoedd diweddaf hyn, talodd aml ymweliad ag America, lle y pwrcasodd eiddo glofaol mawr a gwerthfawr yn yr Unol Dalaethau a Canada. Mae ei fywyd yn gymaint rhamant ag yw eiddo Lloyd George. Pe bae wedi talu haner cymaint o sylw i bolitics ag a wnaeth i fasnach, nid oes swydd yn y deyrnas a fuasai allan o'i gyraedd, a dyddorol fyddai ceisio dyfalu pa beth a ddygwyddasai i Lloyd George pe bae yr hen