Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gysylltiad gyntaf a'u gilydd, ffurfiwyd rhyngddynt gyfeillgarwch cynes tu hwnt i'r cyffredin. "Dafydd a Jonathan" y'u gelwid—ond gan mai "Dafydd" oedd enw bedydd pob un o'r ddau anhawdd dweyd pa un o'r ddau oedd "Jonathan." Tebyg na fuaswn lawer allan o'm lle pe y dywedwn mai David Alfred Thomas, neu "D. A." fel y'i gelwid, ac y gelwir ef hyd heddyw gan bawb,oedd Jonathan, yn gymaint a bod ei safle cymdeithasol yn dra gwahanol i eiddo Lloyd George. Mab y coty oedd Lloyd George; mab y plas oedd D. A. Fel "etifedd y 'Sguborwen" yr adwaenid D. A. pan ddaethym gyntaf i gyffyrddiad ag ef. Yr oedd hyny cyn iddo fyned i'r Senedd, o bosibl cyn iddo ef ei hun feddwl am wneyd hyny. Achos llawenydd i mi hyd y dydd heddyw yw fod i mi ran fechan yn ei gymell i ddod allan yn ymgeisydd Seneddol dros Merthyr ac Aberdar.

Gan mai fel Llys Genad Lloyd George a Gweinidogaeth y Cyfarpar yr ymwelodd D. A. Thomas ag America y tro hwn, ac mai efe yw y Cymro sydd yn bersonol adnabyddus oreu i fyd masnach America, dyddorol fydd gosod yma grynodeb byr o'i hanes. Ceir yn wir aml i beth cyffelyb yn nodwedd cymeriad Lloyd George a "D. A." Ymneillduwyr yw'r ddau, o waed ac o argyhoeddiad. Gweinidog Ymneillduol oedd taid pob un o'r ddau, y naill gyda'r Annibynwyr a'r llall gyda'r Bedyddwyr. Er fod cyfoeth anferth wedi dod i ran y naill, ac anrhydedd mawr i'r llall, erys y ddau yn ffyddlon i draddodiadau crefyddol eu tadau. Anhawdd dweyd pa un o'r ddau yw'r Cenedlaetholwr goreu.