guddiadau Thomas Stephens sydd gwestiwn arall. Swynid ef gan yr adroddiadau mynych a gaed flynyddoedd lawer yn ol am Indiaid Cymreig yr ochr draw i'r Mississipi. Nid wyf yn sicr y credai yr adroddiadau hyny, ond teimlai ddyddordeb mawr ynddynt. Yr oedd bob amser yn falch o'r rhan flaenllaw a gymerodd Cymry yn sefydliad cyntaf Lloegr Newydd, ac yr oedd enw a hanes Roger Williams yn aml ar ei dafod. Ymfalchiai hefyd yn y ffaith fod Cymry wedi arwyddo Ardystiad Annibyniaeth yr Unol Dalaethau. "Dyna chwi," meddai, "ysbryd yr Hen Gymry, a'u dyhead am ryddid, yn tori allan mewn gweithred. Pa ryfedd fod yr Unol Dalaethau yn dadblygu i fod yn amddiffynydd rhyddid y byd!"
Cyfeiriais mewn penod flaenorol (Penod V.) at ei gysylltiad a Mr. D. A. Thomas, eu cyfeillgarwch, eu cyd-wrthryfel, y rhwyg a'u gwahanodd, ac aduniad yr hen gysylltiadau. Yn y cysylltiad hwn mae dau beth yn ddyddorol i Gymry'r America. Y cyntaf yw mai y rhwyg rhyngddo ef a D. A. Thomas a'i cadwodd rhag talu ymweliad a'r Unol Dalaethau ar genadaeth genedlaethol ugain mlynedd yn ol. Yr ail yw mai yr Unol Dalaethau a fu yn foddion anuniongyrchol i gyfanu y rhwyg rhwng y ddau.
Mae yr hanes yn ddyddorol, ac mor bell ag y mae cysylltiad yr Unol Dalaethau, ac yn enwedig Cymry America, a'r helynt yn myned, yn newydd i'r cyhoedd ar y ddau Gyfandir, gan na chyhoeddwyd erioed o'r blaen mo hono.
Pan ddaeth Mr. D. A. Thomas a Mr. Lloyd George i