Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XI.

LLOYD GEORGE AG AMERICA

ODDIAR gychwyniad cyntaf ei fywyd cyhoeddus, mae holl gyfandir America wedi meddu swyn i Lloyd George. Un o ddyheadau ei fywyd a fu, ac eto yw, cael cyfle a hamdden i dalu ymweliad personol a'r Unol Dalaethau, a gweled Cymry'r America yn eu cartrefi. Mae wedi talu dau ymweliad a'r Cyfandir. Y cyntaf i Argentina yn nyddiau cyntaf ei fywyd Seneddol, a'r ail dro i Canada yn nyddiau cyntaf Rhyfel De Affrica. Ni chafodd nemawr hamdden yn y naill na'r llall o'r ymweliadau hyn, ac nid yw ei freuddwyd am gael gweled Cymry yr Unol Dalaethau gartref hyd yn hyn wedi cael ei chyflawni. Beth sydd yn ei aros yn y dyfodol nid oes neb a fedr ddweyd, ond gellir dweyd hyn gyda sicrwydd, y buasai Cymry America mor falch o gael ei groesawu ef ag a fuasai yntau i dalu ymweliad a hwy.

Hoffai yn y blynyddoedd gynt astudio, a siarad am ran y Cymry yn nhrefedigiad cyntaf y cyfandir mawr. Credai yn gryf y pryd hwnw y chwedl am Madoc, y Tywysog Cymreig, yn sefydlu trefedigaeth o Gymry yn Ngogledd America yn mhell cyn i Columbus groesi'r Werydd. A yw yn dal i gredu yr un stori ar ol dat-