Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fedrai symbylu masnach a chynyrch y peirianau hyny, D. A. Thomas yw hwnw. Dywedir fod yr archebion a roddodd D. A. Thomas am Gyfarpar Rhyfel yn Canada yn unig, yn werth pum can miliwn (500,000,000) o ddoleri! A hyny am shells yn unig! Ond cyfarfu D. A. Thomas a chyffelyb rwystrau yn Canada i'r rhai a wynebodd Lloyd George yn Mhrydain. Gorphwysai dwy ddyledswydd arbenig ar D. A. fel cynrychiolydd Cabinet Prydain, sef sicrhau gymaint ag oedd yn bosibl o gyfarpar o Canada, a gofalu na chaffai neb wneyd elw gormodol o'r gwaith a ymddiriedid iddynt. Wrth geisio sicrhau yr olaf daeth i wrthdarawiad a thraddodiadau swyddogol ac a "vested interests." Cynrychiolid y blaenaf gan y Cymro da "Sam" Hughes, gweinidog Milisia Canada. Arferai "Sam" Hughes fod yn "boss" ar bethau yn nglyn a chyfarpar. Ffurfiwyd yn Canada Bwyllgor Cyfarpar, yr hwn a roddai allan y contracts i'r gwahanol gwmniau. Nid oedd y pwyllgor hwn yn gyfrifol ond i Sam Hughes, yn ol arferiad traddodiadol Canada. Ond nid oedd hyn yn cydfyned a syniadau "D. A." Cabinet Prydain oedd yn rhoi yr archebion, Cabinet Prydain oedd yn talu, a Cabinet Prydain ddylai weithredu y rheolaeth a arferai fod yn llaw Gweinidog y Milisia. Aeth yn ymgodymu rhwng y ddau Gymro, D. A. Thomas, Brenin Glo Cymru, a Sam Hughes, Boss Cyfarpar Canada. Arferai Sam fynu ei ffordd bob amser yn Canada. Arferai D. A. fynu ei ffordd yntau bob amser yn Mhrydain. Nid yw yn anfri yn y byd ar y Cymro Sam Hughes i ddweyd mai y