Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymro D. A. Thomas drechodd yn yr ymgodymu, canys mae "D. A." wedi trechu pawb yr ymgodymodd ag ef erioed-oddigerth Lloyd George, fel ag y mae Lloyd George, yntau wedi arfer trechu pawb oddigerth "D. A."!

Cyfeiriwyd eisoes at ymweliad Lloyd George ag Argentina yn 1894. Nid oedd a fynai gwleidyddiaeth a'r ymweliad hwnw. Ymgyrch masnachol ydoedd, gyda'r amcan o ddadblygu mwnglawdd aur ar odre'r Andes. Ffurfiwyd cwmni yn Nghymru i'r pwrpas. Bu Mr. W. J. Parry, Coetmor, Bethesda, enw yr hwn sydd yn adnabyddus i Gymry America, yn enwedig yn yr ardaloedd llechi, yn parotoi y ffordd yn Buenos. Ayres, a phan ddelo'r adeg iddo adrodd holl hanes a helynt, a helbulon yr anturiaeth, bydd yn taflu goleuni llachar ar lawer o bethau tra dyddorol. Anffodus a fu'r anturiaeth i Lloyd George ei hun. Collodd fwy of aur nag a gafodd o'r Andes.

Fel yr adroddwyd eisoes ar ymweliad a Canada yr oedd Lloyd George pan dorodd Rhyfel De Affrica allan. O herwydd yr amgylchiadau a nodwyd eisoes (Penod VI.) gorfu iddo dori ei daith ar ei haner a throi yn ol tuag adref. Er na chyflawnodd ei fwriad o wneyd apel at Gymry'r Unol Dalaethau am gymorth arianol ar ran Ymreolaeth i Gymru a Phlaid Gymreig Annibynol yn y Senedd, gwelwyd yn ddiweddarach ddylanwad y syniad hwnw yn ei feddwl, a chafwyd profion amlwg mor gynes y teimla calon Cymry America at eu brodyr yn yr Hen Wlad, ac mor awyddus ydynt i estyn llaw o gymorth iddynt yn eu hadfyd a'u cyfyngder.