Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Credaf y gallaf hawlio adnabyddiaeth mor llwyr ag eiddo neb byw o sefyllfa Cymru. A gallaf ddweyd yn ddibetrus nad oes dim wedi cyffwrdd yn fwy a'i chalon erioed, na pharodrwydd Cymry America i ddangos. cydymdeimlad sylweddol a hi pan mewn angen. Cafwyd dau amlygiad nodedig iawn o hyny yn y blynyddoedd diweddaf. Y cyntaf, er nad oedd a fyno Lloyd George yn uniongyrchol a hwnw, oedd yr apel a'r Genadaeth yn nglyn a'r Pla Gwyn, y Darfodedigaeth, yn Nghymru.

Dyma yn ddiau y mudiad dyngarol gwirfoddol mwyaf yr ymgymerodd Cymru ag ef erioed. Mr. David Davies, Llandinam, wyr i'r Dafydd Dafis, Llan- dinam cyntaf, oedd prif ysgogydd y mudiad daionus hwn. Yr oedd ef wedi talu ymweliad personol a'r Unol Dalaethau.

Am yr ail engraifft, cymorth parod Cymry America i ddyoddefwyr y Rhyfel yn Nghymru, i haelioni digymell gwladgarwyr dyngarol yr Unol Dalaethau, yn hytrach nag i apel uniongyrchol o Gymru, y rhaid diolch am y cymorth a gafwyd. Ni bu erioed, yn ol pob hanes, unrhyw fudiad cyffelyb i hwn, ar raddfa mor eang, yn apelio yn ymarferol at bob dosbarth a chylch o fywyd Cymreig yn yr Unol Dalaethau, yn grefyddol, yn llafurawl, ac yn gymdeithasol, ag a fu y mudiad mawr elusengar digymell hwn. Llawen fydd gan y cyfranwyr at Drysorfa Dyoddefwyr Cymru wybod fod eu haelioni parod wedi ysgafnhau beichiau a lleddfu dyoddefaint canoedd o deuluoedd yn mhob rhan o Gymru. Mr. Lloyd George a wnaed yn gyfrwng i