Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XII.

DYFODOL LLOYD GEORGE.

YN y penodau blaenorol darluniwyd gorphenol Lloyd George—ei "ddoe." Am ei "heddyw" gellir dweyd mai efe yw Cymro enwocaf ei ddydd, y ffigiwr amlycaf yn ngwleidyddiaeth Prydain, a'r gwr mwyaf poblogaidd yn y byd, o leiaf yn y gwledydd lle yr arferir yr iaith Saesneg. Ond beth am ei "yfory?" Cwestiynau naturiol i'w gofyn yw: "Beth sydd yn ei aros eto? Beth sydd gan y dyfodol iddo ef? Beth sydd ganddo yntau i'r dyfodol?"

Cwestiynau rhwydd i'w gofyn ond anhawdd i'w hateb gyda sicrwydd pendant. Y goreu a ellir ei wneyd yw ceisio gwneyd fel ag a wneir yn myd pob gwybodaeth, sef sylfaenu ar yr hyn a wyddir amgyffrediad o'r hyn nis gwyddir. Felly rhaid i ni edrych ar ddyfodol Lloyd George yn ngoleuni ei bresenol ar ol astudio ei bresenol yn ngoleuni ei orphenol. Canys iddo ef, fel i bawb o honom, bu ei "ddoe" yn "heddyw" iddo, a bydd ei "yfory" yn fuan yn "heddyw" eto. Dywedwyd eisoes ei fod yn eithriadol o agored i ddylanwadau ei amgylchfyd. Mae cyfnewidiadau mawr a welwyd eisoes yn ei amgylchfyd yn mron o angenrheidrwydd wedi achosi cyfnewidiadau cyfatebol yn ei ddull o feddwl, ac yn ei safbwynt o edrych ar