Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwestiynau mawr. Ond er hyn ceir ambell gynddawn wedi ei blanu yn ei natur, ambell argyhoeddiad wedi gwreiddio mor ddwfn, ambell i ddelfryd yn rhan mor hanfodol o hono, fel na ellir eu taflu o'r neilldu fel gwisg nad oes mwy o'i hangen, na'u gwadu fel pe baent gyffes ffydd gwleidyddwr heb argyhoeddiadau. Erys rhai o'r cynddoniau, a'r argyhoeddiadau, a'r delfrydau hyn gydag ef o hyd, glynant wrtho, ac yntau wrthynt hwythau, drwy holl droion dyrys ei yrfa. Rhaid yw y bydd i'r rhai hyn aros, ac o aros iddynt liwio'r oll sydd eto o'i flaen. Yn amlwg yn eu plith gwelir ei Genedlaetholdeb, ei Annghydffurfiaeth, a'i ffydd ddiysgog yn yr egwyddor lywodraethol o Fasnach Rydd. Os nad. gwr diegwyddor yw, byddai mor rhwydd i'r Ethiop newid ei groen neu'r llewpard ei frychni, ag a fyddai i Lloyd George droi ei gefn ar y pethau mawr hyn.

Dyna ei genedlaetholdeb. Byddai mor rhwydd codi'r Wyddfa oddiar ei sylfeini a'i thaflu i'r Werydd ag a fyddai dileu o galon a chydwybod Lloyd George yr ymwybyddiaeth o'i Genedlaetholdeb a'i ymlyniad wrtho Geill ei amgyffrediad o'r ffurf ddylai ei Genedlaetholdeb gymeryd, o'r moddau drwy y rhai y dylai weithredu, gyfnewid gydag amser, fel y newidir wyneb yr Wyddfa gan waith dyn yn y chwareli llechi. Ond, o'i chymaru a sylfeini yr Wyddfa, nid yw hyd yn nod chwarel fawr Dinorwic, y fwyaf heddyw yn y byd, ond megys crafiad ar wyneb yr Eryri dragwyddol, erys y sylfaen yn ddigryn. Felly y rhaid iddi fod gyda Chenedlaetholdeb Lloyd George, ei syniadau am dano a'i ddelfrydau o hono. Er engraifft, dyna'r Fyddin Gym-