reig a grewyd mewn rhan drwy ei ymdrech ef. Rhaid yw fod y syniad o greu Byddin Gymreig yn wrthun i'w feddwl fel Apostol Heddwch; mae fel y domen rwbel yn anharddu prydferthwch y mynydd; ond hyd yn nod felly profa fodolaeth y graig o'r hon y'i cloddiwyd. Dichon nad yw ei wybodaeth o lenyddiaeth Gymreig yn eang, nac o'i chlasuron yn ddwfn iawn; dichon nad yw wedi astudio Hanes Cymru yn drwyadl na manwl, ond edmyga'r Lenyddiaeth a'r Hanes er hyny. Felly hefyd ei serch at Gymru, ei phobl, ei harferion, ei chan, ei beirdd, ei phobpeth cenedlaethol gwahanfodol. Am y rhai hyn oll, teimla mewn ystyr ei fod yn Ymddiriedolwr, ac ni fynai pe medrai fradychu'r ymddiriedolaeth. Ni chyll byth gyfle i'w clodfori, ac i amlygu ei falchder ei fod yn Gymro. Wele engraifft hollol nodweddiadol, diweddglo anerchiad a draddododd i gynulleidfa o Saeson yn nghanol Lloegr pan oedd ei frwydr a Thy'r Arglwyddi yn agoshau at awr anterth:
"Gwaed y Celt sydd yn fy ngwythienau. Mae llawer mwy o waed y Celt yn ngwythienau'r Sais hefyd nag y mae efe yn barod i gydnabod. Pe tynech bob dafn o waed Celtaidd o wythienau'r Sais, ychydig o ddim gwerth son am dano a geid ar ol. A dyna hoffai'r Arglwyddi ei wneyd. Heb ei waed Celtaidd byddai'r Sais yn rhy wan i wrthsefyll yr Arglwyddi. Ymddygant ataf fi fel pe bawn dramorwr. Ond yr oedd fy hiliogaeth i yma dair mil o flynyddoedd yn ol. Ond dywedaf wrthych paham y mae'r Arglwyddi yn cashau y Celt. Am fod y Celt yn caru Rhyddid! Gellir ei sathru dan draed—gwnaed hyny cyn hyn. Gellir ei ormesu—a Duw a wyr fe wnaed hyny hefyd. Ond ni ellir byth dori ei syched am Ryddid! Sathrwch ef yn y llaid, a chyfyd ei blant, a phlant ei blant, o'r llaid drachefn ac arwyddair Rhyddid yn eu geneuau! Wele fi yn dod atoch yma fel disgynydd o'r hiliogaeth a ymladdodd yn erbyn Iwl Caisar, i erfyn arnoch i sefyll yn ddewr yn erbyn ymosodiad mwy peryglus na hwnw i ryddid, i iawnderau, ac i freintiau trigolion Ynysoedd Prydain!"