Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfranogodd o'u caledfyd, a dyoddefodd eu holl brofedigaethau. Ond caledodd hyny y gewynau, cryfhaodd ei nerth, tynhaodd pob gieuyn moesol iddo. Oddiwrth Hampdeniaid Cymru y cafodd ei ysbrydoliaeth; wrth draed cewri Pwlpud Ymneillduol Cymru y dysgodd ei wersi cyntaf am hawliau cenedloedd bychain. Gwrandewch ar yr hyn a ddywedodd yn Neuadd y Frenines bum mlynedd cyn llefaru o hono y dyfyniad uchod:

"Mi a adwaen fy ngwlad fach fy hun—Cymru. Yr hyn a'm tarawa wrth edrych arni yw hyn: Ar y naill law gwelir castell cadarn y barwnig a phlasdy mawr y landlord; ac ar yr ochr arall adeilad bychan o briddfeini coch, gyda gair ar astell o'i flaen, naill ai 'Methodist,' neu 'Annibynwr,' neu Fedyddiwr.' Ond gellwch fod yn sicr o hyn yn y capel bach hwnw y ceir yr unig rai yn y pentref feiddiant sefyll i fyny yn erbyn y Castell. Yno y ceir pawb sy'n gwrthod cynffona. Y capeli bychain hyn yw cysegr ac amddiffynfa annibyniaeth y pentref. I ymladd dros hawliau'r bobl y saif y capeli bychain hyn yno—a gwnaed hyny!"

Ac nid rhyw argraffiadau diflanedig yw y syniadau a'r delfrydau hyn am Genedlaetholdeb ac Annghydffurfiaeth. Duw a'u planodd ynddo pan y'i ganed. Ni wnaeth dyn a'i actau, ai o'r capel ai o'r castell y deuent, ddim ond eu dyfnhau fel y tyfai yntau i'w deall a'u sylweddoli. A'r hyn a roddodd Duw iddo, a'r hyn a dyfodd gyda'i dyfiant yntau, ac a gynyddodd yn ei enaid fel y cynyddai ei gorff yntau, ni all yr un amgylchfyd politicaidd byth ei ysgubo ymaith na'i foddi. Rhaid i'r hyn a blanwyd felly yn ei natur aros yn eiddo iddo byth, gan liwio a dylanwadu, os na fedr reoli a chyfeirio, ei holl ddyfodol politicaidd.

Y trydydd peth arosol yn argyhoeddiadau Lloyd George yw ei ffydd ddiysgog mewn Masnach Rydd.