Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os, fel y dywed rhai, y gwthir ef gan droion dyrys y Rhyfel i rwyd Diffyndolliaeth, yn ei ymdrech i gael cyllid newydd i dalu treuliau y Rhyfel, fe gyfyd ei holl orphenol i'w gondemnio. Dywedir fod gwaith yn lladd drychiolaethau; ond ni fedrai yr un gwaith, bydded mor galed ag y bo, byth ladd ysbrydion cyffesiadau ei orphenol o gredo Masnach Rydd. Ni bu Cobden na Bright erioed yn dal y ffydd hono yn gadarnach na Lloyd George. Yn ei frwydrau am Flwydd Dal i'r Hen, ac am Yswiriant Cenedlaethol i'r gweithiwr, ymladdai o angenrheidrwydd byth a hefyd yn erbyn heresi Diffyndolliaeth.

Cyfeiriwyd eisoes at y gyffelybiaeth rhwng gyrfa Lloyd George ac eiddo Joseph Chamberlain. Ceisia rhai, ar sail y gyffelybiaeth hono, broffwydo dyfodol i'r Cymro tebyg i eiddo y gwr mawr o Birmingham. Yn ddiameu ceir llawer o bethau tebyg yn hanes y ddau; y perygl yw cario'r gyffelybiaeth yn rhy bell, ac anwybyddu y gwahaniaethau fodolant hefyd. Magwyd y ddau ar fronau Ymneillduaeth. Addolid y ddau gan eu cydgenedl a'u hetholwyr. Edrychid i lawr ar y ddau am nad oeddent wedi arfer troi mewn cylch uchel o gymdeithas nac wedi mwynhau breintiau addysg Prifysgol. Gwthiodd pob un o'r ddau drwy rym personoliaeth cryf, ddrysau yn agored oedd gynt wedi cael eu cau a'u bolltio yn erbyn eu dosbarth. Daeth y naill fel y llall gyntaf oll yn destyn gwawd, yna yn ddychryn, ac yn olaf yn eilun y bendefigaeth gref y tyngodd efe lw y mynai ei dymchwelyd. Defnyddiodd y naill fel y llall beirianwaith ei Blaid boliticaidd gyhyd