Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(Conscription) i godi byddin yn awr. Yr oedd pob un o'r ddau arwr yn boblogaidd gyda'r werin, a phob un yn ymarferol yn gweithredu awdurdod ar nifer lluosog o etholaethau, Mr. Chamberlain yn Nghanolbarth Lloegr a Mr. Lloyd George yn Nghymru. Ond yr oedd y gwahaniaeth hanfodol hyn rhyngddynt; tra yr aeth holl etholaethau Canol Lloegr drosodd gyda Mr. Chamberlain i wersyll y gelyn, ni alwyd ar Mr. Lloyd George hyd yn hyn i droedio'r llwybr peryglus hwnw; unwaith yn unig yr anturiodd ymgeisio at hyny gyda Mesur Oedi Dadgysylltiad, a chlywodd yn y fan ruad daeargryn a fygythiai ddymchwelyd ei orsedd.

Ar yr un pryd rhaid cydnabod fod Mr. Lloyd George, ar hyn o bryd, yn fwy poblogaidd yn ngwersyll ei hen elynion nag ydyw yn mhlith ei hen gyfeillion. Pan welant holl bapyrau Toriaidd y deyrnas yn ei glodfori, naturiol yw i'w gefnogwyr gynt ddechreu ei ddrwgdybio. Priodolir iddo ran flaenllaw yn nhrawsffurfiad y Cabinet Rhyddfrydol, yr hwn a drowyd yn Gyd—Gabinet o Ryddfrydwyr a Thoriaid. Digiodd nid yn unig Cenedlaetholwyr Cymru ond Ymneillduwyr Lloegr hefyd wrtho, am ei waith yn cyduno a theulu Cecil—arch Doriaid eglwysyddol Lloegr—i oedi'r amser y deuai Mesur Dadgysylltiad i weithrediad. Digiodd Blaid Llafur drwy geisio o hono eu gorfodi yn groes i'w hewyllys. Ameuodd dosbarth mawr o'r Radicaliaid ef pan welsant ef yn cyduno a'r rhai a fynent wthio gorfodaeth milwrol ar y wlad. Mae'r Blaid Wyddelig yn ei ddrwgdybio o fwriad i'w gwerthu hwythau. Rhwng pob peth, yn y gwersyll Toriaidd,