Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrth-werinol, gwrth-genedlaethol, seinir clodydd Lloyd George uchaf y dyddiau hyn. I'r fath raddau mae hyn yn wir fel y cyhoeddodd newyddiadur dyddiol adnabyddus yn ddiweddar yn iaith Wall Street: "Lloyd George stock is badly down!"

Ond ni welwyd neb erioed yn fwy medrus na Lloyd George i ddianc o gongl beryglus. Yn wir, dywedi am dano ei fod fel rheol "yn medru enill clod o'i gamgymeriadau."

Ceisiodd rhai ei wthio i gystadleuaeth a Mr. Asquith am gadair y Prif Weinidog. Effaith uniongyrchol yr ymgais hwnw fu gwneyd Mr. Asquith yn fwy poblogaidd, ac yn sicrach yn ei awdurdod, nag erioed. Mae gwahaniaeth dirfawr rhwng gallu Mr. Asquith ac eiddo Mr. Lloyd George. Dyma ddesgrifiad y diweddar W. T. Stead o'r Prif Weinidog:

"Mae Mr. Asquith can oered a'r grisial, mor ddeheuig a'r cythraul; dur (steel) wedi ei galedu yw ei ddeall; perchir ef gan bawb; ofnir ef gan luaws."

Adgofiwyd y wlad gan yr ymgais i'w droi o'i swydd, o'r gwasanaeth mawr a wnaeth efe iddi dro ar ol tro. Cofiodd Ymneillduwyr mai Asquith a laddodd y cydfradwriaeth oedd a'i amcan i rwystro Cymru i gael Dadgysylltiad. Adgofiodd y Gwyddelod ei fod ef wedi sefyll fel y dur dros hawliau cenedloedd bychain.

Yn ngwyneb y Gynadledd a alwyd yn ddiweddar gan yr Arlywydd Wilson i gyfarfod yn Washington i ystyried y cwestiwn o ffurfio "Cyngrair o holl Wledydd America," dyddorol yw galw i gof fod Mr. Asquith wedi awgrymu y posiblrwydd o sefydlu, ar ddiwedd y