Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfel presenol, Gyngrair cyffelyb o holl deyrnasoedd Ewrop. A yw yn bosibl mai un o ganlyniadau mawr ac annysgwyliadwy y Rhyfel yn Ewrop fydd ffurfio dau Gyngrair mawr, Cyngrair Unol Dalaethau Holl Gyfandir America, a Chyngrair Unol Dalaethau Holl Gyfandir Ewrop! Pe gwelid hyn, byddai'r Milflwyddiant yn y golwg!

Gwnaeth yr ymgais i droi Mr. Asquith o'r naill du, a gosod Mr. Lloyd George yn Brif Weinidog yn ei le, barhad Mr. Asquith fel Prif Weinidog, o leiaf hyd ddiwedd y Rhyfel, yn sicr ac anocheladwy. Ond pan elo'r Rhyfel heibio, beth wed'yn? Ni all Mr. Asquith, yn ol cwrs natur, ddal swydd o'r fath am yn hir eto. Pwy ynte a fydd ei olynydd? Pa beth a ddygwydd? A ail doddir y pleidiau politicaidd yn Mhrydain? Amlwg yw fod Mr. Lloyd George yn credu y gwneir. Dywedodd hyny yn mron yn bendant yn Nhy'r Cyffredin yr haf 1915. Ebe efe:

"Mae y Rhyfel wedi codi cwestiynau o'r pwys mwyaf, cwestiynau na feddyliodd neb am danynt, cwestiynau a benderfynant nid yn unig holl fywyd Prydain, ond dyfodol yr hil ddynol am genedlaethau. Cwestiynau mawr fydd y rhai hyn o ad-drefniant, a lanwant feddwl y genedl, pob dosbarth o honi pan elo'r Rhyfel heibio."

Rhoddir mwy nag un dehongliad i'r freuddwyd yna o eiddo Lloyd George. Nid wyf am anturio penderfynu a yw yr un o'r dehongliadau yn gywir. Ond pan edrychir ar orphenol Lloyd George gwelir ei fod yn wr o uchelgais beiddgar, yn afreolus ei hun ond yn hoffi rheoli eraill, ac yn mynu cael ei law yn rhydd pan mewn awdurdod. Dangosodd yr olaf pan y gwnaeth