Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny yn amod cyn derbyn o hono y swydd o Weinidog Cyfarpar. Dywedir ddarfod iddo fygwth ymddiswyddo o'r Cabinet oni chaffai yr holl awdurdod yn yr adran newydd yn ddilyffethair yn ei ddwylaw ei hun. Na feier ef am hyny. Mae pob arweinydd mawr a welodd y werin erioed wedi bod yn wr o ysbryd unbenaethol. Gan nad beth felly ddygwydd i'r pleidiau politicaidd yn Mhrydain ar derfyn y Rhyfel, amlwg yw y bydd Lloyd George yn ddyn rhy gryf i'r naill na'r llall o'r pleidiau allu fforddio ei anwybyddu. Sibrydir weithiau y bydd yn debyg o wneyd fel y gwnaeth Chamberlain-myned drosodd at y Toriaid. Eithr os felly ni all y Toriaid gynyg dim llai na chadair y Prif Weinidog iddo. Ond os erys yn y Blaid Ryddfrydol, beth wed'yn? Nis gellir dychymygu am dano yn boddloni gwasanaethu o dan unrhyw Brif Weinidog arall na Mr. Asquith mwyach. Ond a gaffai efe ei wneyd yn Brif Weinidog ar ol Mr. Asquith? Ddim heb wrthwynebiad cryf gan fwy nag un dosbarth o'r Rhyddfrydwyr am y rhesymau a nodwyd eisoes.

Gwelir felly y posibilrwydd o'r naill ochr fel y llall. Mae dyn o allu a dylanwad Lloyd George yn anmhrisiadwy werthfawr i'r blaid y perthyna iddi. Ymddibyna ei werth ar ddau beth, sef ei allu fel dadleuydd ar y llwyfan ac yn y Ty, a'i ddylanwad yn yr etholaethau. Dyna'r ddau beth a osodasant werth ar Mr. Chamberlain i'r Toriaid, ei allu fel siaradwr, a'r sicrwydd y medrai gario etholiaethau y Midlands gydag ef i ba le bynag yr elai. Ond beth am Mr. Lloyd George? Erys ei werth fel siaradwr, fel dadleuwr, ac fel ymladdwr,