Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra parhao ei alluoedd corfforol heb eu hamharu. Ond beth am yr ail? A fedrai efe gario Cymru gydag ef i wersyll Toriaeth pe y penderfynai ef ei hun ymuno a'r Blaid hono? Atebaf yn ddiamwys; Na fedrai! Mae yn dra thebyg y glynai ei etholaeth ef ei hun, Bwrdeisdrefi Arfon, wrtho gan nad pa bechod gwleidyddol y ceid ef yn ei gyflawnu. Ond am gorff gwerin Cymru, mae hono a'i hegwyddorion yn sylfaenedig ar graig rhy gadarn, mae ei delfrydau yn rhy ddyrchafedig, i ganiatau iddi byth wneuthur hyny. Cafwyd profion diameuol eisoes y medr Lloyd George nid yn unig uno ond arwain holl etholaethau Cymru gyfan, 33 mewn nifer, eithr yn unig tra yr arweinia efe ar hyd y llwybr y dysgwyd hwynt ganddo ef ei hun i'w gerdded. Adgoffaodd ef Mr. Gladstone fwy nag unwaith fod Cymru yn fwy sefydlog yn ei barn, yn fwy ffyddlon i'w hegwyddorion gwleidyddol, na'r un rhan arall o'r deyrnas. Anmhosibl yw credu y byddai yn anffyddlon yn awr hyd yn nod pe y gorchymynai Lloyd George iddi wadu ei hegwyddorion. Mae'r ffaith syml hon yn tynu yn ol yn ddirfawr oddiwrth ei werth i'r Blaid Doriaidd pe medrai efe annghofio proffes a daliadau oes, a throi ei gefn ar ei hen gefnogwyr.

Ceir yn Mhrydain heddyw nifer o gwestiynau cartrefol o'r pwys mwyaf, rhai o honynt yn mron cael eu setlo, ac eraill yn gwaeddi yn uchel am hyny pan dorodd y Rhyfel allan. Ni ellir anwybyddu y rhai hyn pan orphena'r ymladd ar y Cyfandir. Rhaid talu sylw dioed iddynt can gynted ag y caffo'r wlad ei hun yn rhydd o'r helynt mawr a Germani. Mae y ffaith fod