Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Seisnig adnabyddus. Teitl yr ysgrif oedd "The Welsh Political Program," ac nid yw yr ysgrif hono erbyn hyn namyn beddfaen i nodi'r man lle y claddwyd gobeithion dysglaer Cymru! Ond nid oes ddyn ar y ddaear heddyw a wnaeth ddefnydd mwy effeithiol o'r wasg. Mae ei ddyled ef iddi yn fwy o bosibl na'r eiddo neb byw. Ar gychwyniad cyntaf ei yrfa gofalai fod adroddiad manwl o'i areithiau a'i weithredoedd yn cael ei yru i'r wasg Gymreig a Seisnig. Fel rheol, mynai gael gweled y "copi" ei hun cyn yr ai i'r wasg. Yn Gymraeg y siaradai fel rheol yn ei sir ei hun (Caernarfon). Mynai weled a chywiro y cyfieithiad Seisnig cyn y caffai'r cysodydd roi ei fys arno. Anwybyddid. ei areithiau yn aml y pryd hwnw gan y papyrau dyddiol. Ond pan ddaethant hwythau yn ddigon call i weled fod ei safle yn y byd gwleidyddol yn hawlio sylw, cymerai yntau gymaint o ofal ag erioed na wnai'r gohebwyr gam a'r hyn a ddywedai. Awr neu ddwy cyn y traddodai ei araeth, cynaliai fath o rehearsal preifat o'r araeth i ohebwyr y papyrau yn ei lety. Yno cyfarfyddent, ryw haner dwsin o honynt, i gymeryd mewn llaw fer yr anerchiad y bwriadai efe ei draddodi y noson hono. Nid darllen ei araeth iddynt a wnai, eithr ei thraddodi "o'r frest" fel yr arferai cewri pwlpud Cymru eu pregethau. Nid oedd ganddo i'w gyfarwyddo namyn haner dwsin o nodiadau wedi eu hysgrifenu ar gefn amlen llythyr. Tra yn traddodi yn y rehearsal, cerddai ol a blaen ar hyd yr ystafell, gan dori weithiau ar draws ei araeth i wneyd rhyw sylw pert ond hollo! anmherthynasol i'w destyn, wrth y naill