Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu'r llall o'r gohebwyr. Pan ddyrchafwyd ef yn Weinidog y Goron cyfnewidiodd ei ddull, yn lle myned ei hun i ystafell y gohebwyr, gyrai ei ysgrifenydd. preifat yno, a darllenai hwnw yr araeth o gopi oedd ganddo wedi ei deipreitio. Drwy y trefniant hwn yr oedd ei araeth yn aml wedi cael ei phellebru, ac yn cael. ei chysodi yn Llundain a threfi Lloegr cyn iddo ef ei thraddodi yn Nghymru.

Rhaid boddloni ar un engraifft eto, yn mhlith y diweddaraf, o'r gofal mawr y myn gymeryd er sicrhau na wna gohebydd na golygydd gam ag ef yn ei fater. Ddechreu haf, 1915 (Mehefin 3ydd) traddododd yn Manceinion (Manchester) ei araeth gyhoeddus gyntaf wedi derbyn o hono y swydd o Weinidog Cyfarpar Rhyfel. Yr oedd y wlad a'r byd megys ar flaenau eu traed i glywed beth oedd ei genadwri. Ni pharotodd gopi yn mlaen llaw i'r wasg, ond mynodd, cyn dechreu'r oedfa, ei gwneyd yn amod nad oedd ei araeth i gael ei chyhoeddi hyd nes caffai efe ei hun gywiro y "copi." Siaradodd am awr gyfan namyn pedwar mynyd. Yn mhen teirawr wedi iddo orphen siarad yr oedd copi cyflawn o'r araeth wedi ei deipreitio yn ei law, ac yntau yn cywiro hwnw cyn y caffai ei gysodi. Llanwai'r araeth bedair colofn hir yn y papyrau dyddiol dranoeth.

Sieryd mor rhwydd a llithrig yn Saesneg ag a wna yn Gymraeg. Fel rheol, pan yn anerch cyfarfod yn Nghymru, llefara yn Gymraeg. Ar adegau neillduol yn ddiweddar er mwyn y Philistiaid ar y wasg Seisnig, traddoda gorff ei araeth yn Saesneg, gan lefaru aml i