Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

frawddeg yn Gymraeg, ac fel rheol bydd yn rhoi'r diweddglo oll yn Gymraeg. Eithr pan wna efe hyny gofala ei ysgrifenydd fod "cyfieithiad awdurdodedig" i'r Saesneg o'r diweddglo hwnw yn cael ei estyn i'r gohebwyr.

Defnyddia'r wasg hefyd mewn cyfeiriadau eraill i raddau helaethach lawer nag a wnaeth yr un deddfwneuthurwr erioed o'i flaen. Pan wthiodd gyntaf ei Ddeddf Yswiriant i'r dyfnder, cymerodd fesurau effeithiol i dawelu ystorm y farn gyhoeddus. Taenwyd drwy'r deyrnas gyfres faith o bamffledi yn egluro pob rhan a phob agwedd o'r Ddeddf newydd a dyrys. Yn y Gaelaeg a'r Wyddelaeg yn y Gymraeg a'r Saesneg, argraffwyd y rhai hyn wrth y canoedd o filoedd a gwasgarwyd hwynt yn rhad fel nad oedd coty na phalas drwy'r deyrnas oll na chafodd y goleuni fedrai'r wasg daflu ar ddarpariadau'r Ddeddf.

O'r olaf o'r pedwar achos o'i lwyddiant a nodwyd, "supreme smartness," dyry gwahanol bapyrau aralleiriad o'u heiddynt eu hunain. Geilw y "Nation" ef yn "brilliant but hasty intelligence," gan felly led awgrymu nad yw bob amser yn edrych cyn neidio. Dywed y "New Statesman" mai "sheer political adroitness, producing a record of enormously energetic and courageous muddle" yw nodwedd amlycaf ei waith cyhoeddus. Dyry un cylchgrawn i ni erthygl ar "Ochr Ddynol Lloyd George" gan led awgrymu fod i Lloyd George, fel ag y sydd gan y Caisar, "Ochr Ddwyfol" ac "Ochr An-nynol!" Lle bo doctoriaid mawr fel hyn yn methu cytuno, prin y mae yn gweddu i wr gwylaidd fel