Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er mwyn cynorthwyo'r plant yn eu gwersi ysgol, rhaid oedd i Richard Lloyd astudio ac addysgu ei hun. Efe a arweiniodd y bachgenyn Dafydd Lloyd George gerfydd ei law i'r Cysegr, efe a'i dysgodd i ddarllen ac i garu'r Beibl, efe a'i cyfarwyddodd yn ei wersi; a phan y dechreuodd y llanc Dafydd astudio'r gyfraith, rhaid oedd i'r ewythr yn nghyntaf droedio llwybrau disathr y ddysgeidiaeth hono ei hun er mwyn eu gwneyd yn rhwyddach i'r nai a garai i'w teithio.

Ni welais yn fy mywyd gymeriad mwy pur, mwy prydferth, nag eiddo Richard Lloyd. Yn ei gwmni y sylweddolais beth yw cymdeithas sant. Adlewyrcha ei wyneb rhychiog oleuni dysgleirdeb Mynydd y Gweddnewidiad. Nid yw chwarter canrif o gyfeillgarwch. agos ag ef ond wedi dyfnhau fy edmygedd o hono dwyshau fy mharchedigaeth iddo. Pa beth ynte rhaid fod dylanwad cymeriad mor gryf, gyda'i symlrwydd calon a gloewder ei ysbryd, ar feddwl tyner y plentyn, y bachgenyn, a'r llanc oedd yn ddyledus iddo am bob dim ar a feddai?

Fel y tyfodd y bachgen Samuel yn nhy Eli, felly y tyfodd David Lloyd George yn nhy ei ewythr, Richard Lloyd. Yn wir, bu yn mron iddo, fel Samuel, ddylyn. ei athraw yn yr alwedigaeth santaidd. Bu yn pregethu droion pan yn wr ieuanc. Oni bae fod galwad y Bobl wedi profi yn gryfach na galwad y Pwlpud, buasai Cymru wedi cynyrchu George Whitfield arall yn lle Lloyd George! Mor wahanol yn hyn ydoedd i'r Cymro mawr arall hwnw, y Parch. Hugh Price Hughes, i'r hwn yr ymdebyga Lloyd George mewn yni, areithydd-