Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaeth, a chyneddfau meddyliol. Pan ddewisodd Hugh Price Hughes y pwlpud fel maes ei lafur, dywedodd yr hen Gristion gloew hwnw, ei dad, wrtho: "Da machgen i! Gwell fyddai genyf dy weled yn bregethwr Wesley, na dy weled yn Arglwydd Gangellydd Prydain. Fawr!"

Temtir fi i ddarlunio bywyd y cartref hwnw, ei brydferthwch, ei gynildeb, ei awyrgylch o lafur a chrefydd, ond rhaid boddloni ar un o'r brasddarluniau goleu hyny a dynir weithiau gan bwyntil cyflym Lloyd George ei hun. Dywed ef am ddyddiau ei febyd:—

"Ambell waith y profem gig ffres. Yr wyf yn cofio yn dda mai yr ameuthyn mwyaf genym ni fel plant oedd cael o honom bob un haner wy i frecwast boreu Sul."

Difetha'r darlun a fyddai ychwanegu llinell ato. Cyflea fyd o feddwl. Edrycher arno gan ddal bywyd moethus Llys y Brenin o'r tu ol iddo, a gwelir y gagendor ofnadwy rhwng byd y plentyn tlawd a byd y gwladweinydd mawr.

Heb feiddio o honom ysbio i gysegr santeiddiolaf ei fywyd boreuol, gellir dweyd fod y golofn uchel ar ben yr hon y saif Lloyd George heddyw yn ngwydd y byd, a'i sail a'i sylfaen yn hunan—ymwadiad ac yn hunanaberth eraill er ei fwyn. Ni freintiwyd neb erioed yn fwy nag ef yn ei gysylltiadau teuluaidd, nac mewn cyfeillion teyrngar. Gofalodd ei ewythr na chaffai byth weled eisieu tad; yn ngwyliadwriaethau tywyll y nos cynlluniai ei fam weddw ar gyfer y dydd goleu a dysglaer yn yr hwn yr oedd ei mab i ymddadblygu mewn llawenydd ac anrhydedd. Ond heblaw y