Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhai hyn yr oedd iddo frawd, yr hwn a gadwynodd ei hun wrth y ddesc yn y swyddfa modd y caffai Dafydd ei frawd well cyfle i ymddangos yn deilwng yn nysgleirdeb bywyd cyhoeddus; bu iddo chwaer a chwareuodd ran y "fam fach" iddo am flynyddoedd; mae iddo wraig dyner a gymer ar ei hysgwyddau ei hun faich ei dreialon cyfrin, gan ei alluogi yntau yn well i ddwyn baich anrhydedd y byd; ie, a'r cyfeillion a wnaethant benyd am ei bechodau ef, modd y medrai'r achos a gerid ganddynt hwy ac yntau lwyddo yn well. Bu i'r rhai hyn oll eu rhan a'u cyfran yn ngwneuthuriad y Lloyd George a adwaenir gan y byd heddyw.

Gwr tra gwahanol i Richard Lloyd oedd Michael D. Jones, y Bala, tadmaeth gwleidyddol Lloyd George. Ysid enaid Michael Jones gan ei ymwybyddiaeth o ddyoddefiadau ffermwyr Cymru. Gwr milwraidd ei ysbryd, yn llosgi gan sel gor-werinol ei syniadau a chenedlaethol ei ddyheadau, yn meddu ysbryd a gafaelusrwydd y targi a medr a dewrder penaeth haid of bleidgarwyr ydoedd; ymddangosai Michael Jones i dirfeddianwyr Cymru a'u cynffonwyr fel ymgorfforiad byw o bob peth oedd iddynt hwy yn ddychryn yn Ymneillduaeth werinol Cymru ei oes. Efe oedd y ffigiwr mawr amlwg yn ngwrthryfel gwleidyddol cyntaf gwladwyr Cymru. Taniwyd enaid y bachgenyn Lloyd George gan y gwron, a disgynodd mantell Michael Jones ar Lloyd George, yr hwn wedi hyny a bregethodd efengyl yr apostol mawr o'r Bala, diwygio Deddfau'r Tir, i'r cenedloedd Seisnig, ac a gorfforodd rai o egwyddorion sylfaenol yr efengyl hono yn ei Gyllideb