Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fawr. Cydnebydd Mr. Lloyd George ei hun Michael Jones fel ei dad yn y ffydd wleidyddol, ac i'r athraw o'r Bala y mae Bwrdeisdrefi Arfon yn ddyledus am eu haelod, a Phrydain am ei gwladweinydd enwog. Fel y darfu i'r proffwyd Samuel nodi allan Ddafydd arall o blith ei frodyr fel eneiniog yr Arglwydd i lywodraethu dros Israel, ac i'w gwaredu oddiwrth ormes y Philistiaid, felly nododd Michael Jones y Dafydd hwn fel gwr wedi ei gyfaddasu gan Dduw i arwain cenedl y Cymry o'u caethiwed. "Dyma," ebe Michael Jones rai blynyddoedd cyn dewis Lloyd George i'r Senedd, "y gwr i Fwrdeisdrefi Arfon. Efe a ordeiniwyd i fod yn arweinydd Cymru yn Senedd Prydain." Ac ni bu proffwyd mwy ysbrydoledig erioed.

Er's cenedlaethau mae Bethel y pentref yn Nghymru wedi llywio a lliwio bywyd y genedl. Yn ddiameu ffurfiodd, a lluniodd, a chyd-dymerodd holl gymeriad y plentyn, a'r bachgen, a'r llanc David Lloyd George. Yn ol arferiad teuluoedd Ymneillduol Cymru mynychai ty Richard Lloyd y Cysegr yn rheolaidd deirgwaith ar y Sul. Yn y capel bychan hwnw o dan weinidogaeth ei ewythr, gwelai y bachgen bob peth goreu Ymneillduaeth Cymru wedi ei fan-ddarlunio ger bron ei lygaid. Llaw ei ewythr a'i harweiniai yn blentyn bychan o'r cartref syml i'r capel oedd mor syml a'r cartref. Nid oedd yno nag adeilad gwych, na defodaeth rwysgfawr, nac offeiriadaeth mewn gwisgoedd gwynion. Syml yw y gwasanaeth Ymneillduol yn mhob capel Cymreig, ond symlach fyth y gwasanaeth lle y gweinidogaethai Richard Lloyd. Myn enwadau