eraill, ac hyd yn nod sectau eraill yn yr un enwad, weinidog wedi ei godi mewn coleg, yn aml wedi graddio yn y Brifysgol bob amser yn ordeiniedig, ac yn derbyn cyflog fel bugail arosol, ac yn gweithredu mwy neu lai o awdurdod dros y frawdoliaeth corfforedig yn yr eglwys. Ond nid felly "Dysgyblion Crist," fel y galwai y praidd bychan hwn eu hunain. Ni chydnabyddir ganddynt wahaniaeth rhwng aelod a gweinidog. Brodyr ydynt oll, pawb yn gydstad, pawb yn mwynhau yr un breintiau, cymundeb o Gristionogion cyntefig mewn gwirionedd. Yn yr eglwys fechan hono yr oedd yr holl aelodau yn ddiwahaniaeth yn cael eu cyfrif "megys meini bywiol, wedi eu hadeiladu yn dy ysbrydol, yn offeiriadaeth santaidd, i offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu. Grist." Nid oedd y ffaith fod Richard Lloyd yn cyflawnu dyledswyddau yr offeiriadaeth santaidd, gan offrymu o wythnos i wythnos yr aberthau ysbrydol yn y cysegr bychan hwnw, yn rhoddi iddo nac awdurdod na braint ar ni fwynheid gan bob aelod arall; a'r unig dal a gaffai oedd parch gwirfoddol ei gyd-ddysgyblion, ac edmygedd cyffredinol ei gymydogion. Iddynt hwy oll yr oedd offeiriadaeth Richard Lloyd mor wirioneddol, a'r parch a delid iddo mewn canlyniad mor ddwfn, a phe y gwisgai feitr Esgob neu het goch Cardinal. Defnyddid dysgyblaeth Biwritanaidd lem yno. Deuai cadwraeth y Sabboth, mynychu moddion gras, darllen y Beibl ac ufuddhau i'w gyfarwyddiadau, megys yn ail natur i'r aelodau. O dan y cyfryw ddysgyblaeth y dadblygodd y plentyn i fod yn fachgenyn,
Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/38
Gwedd