Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r bachgenyn i fod yn llanc, ac a gynyddodd yn yr ysbryd yr hyn a nodweddai ddysgeidiaeth yr eglwys hono, "Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd" oedd arwyddair y bobl yn mhlith y rhai y bwriwyd ei goelbren. Yr oedd yn fwy hyddysg yn ei Feibl nag ydoedd yn ei lyfr ysgol. Yr oedd geiriau a brawddegau'r Ysgrythyr bob. amser ar ei dafod, a chlywir hwynt yn aml hyd y dydd heddyw yn ei areithiau cyhoeddus ar y llwyfan ac yn Nhy'r Cyffredin.

Ond nid oedd holl ddylanwadau boreu oes yn ddaionus; ceir rhai o honynt yn wenwynig. Cyfnod gormes i'r werin ydoedd; dyoddefent anfanteision mewn addysg, cymdeithas, crefydd a gwleidyddiaeth; a dylanwadodd hyn lawer ar ei fywyd cyhoeddus.

Prin iawn oedd manteision addysg ieuenctyd y dosbarth y perthynai ef iddo. Daeth Deddf Addysg 1870 i weithrediad yn fuan wedi iddo ddechreu mynd i'r ysgol ond yr unig ysgol o fewn cyraedd iddo oedd Ysgol yr Eglwys, awdurdodau yr hon a'i cyfrifent ef megys yr ethnig a'r publican o herwydd heresi ei Ymneillduaeth. Nid oedd modd i rieni tlawd roi addysg ganolradd i'w plant. Ni cheid addysg Prif Ysgol ond yn Rhydychain a Chaergrawnt—a phell iawn oedd y ddau le hyn o'i gyraedd ef a'i fath. Felly cyfyngwyd cwrs addysg Lloyd George i'r hyn a gafodd yn ysgol fach y pentref, lle hefyd yr arweiniodd efe wrthryfel mawr er mwyn cydwybod. Ei High School oedd siop y crydd—ac ni adeiladwyd cryfach cymeriadau erioed gan Dr. Arnold, meistr enwog Rugby, nag a wnaeth Richard Lloyd y crydd yn mhentref bach Llanystum-