Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwy. Ni bu ar Lloyd George erioed gywilydd cydnabod prinder yr addysg a gafodd. Ebe fe:—

"Anniolchgar iawn fuaswn pe na ddywedwn yn groew nad oes arnaf ddyled i'r Brifysgol. Nid oes arnaf ddyled ychwaith i'r Ysgolion Canolradd. I'r capel bach yn y pentref yr wyf yn ddyledus am yr oll."

Ond erbyn hyn mae Prifysgolion Cymru a Rhydychain wedi rhoddi iddo urddau anrhydeddus yn mysg dysgedigion byd—gan gydnabod o honynt felly y geill ysgol fach y pentre, a'r capel gwledig syml, os manteisir ar eu cyfleusderau gan dalent naturiol y Cymro, gynyrchu aur teilwng i ddwyn nod arian bathol byd dysgeidiaeth.

Dyoddefodd hefyd yn ei berson ei hun, tra yn blentyn ac yn llanc, holl anfanteision Ymneillduwyr y cyfnod, a gwingodd yntau yn erbyn y symbylau, er mai caled oedd hyn. Er yn gyfoethog mewn profiad ysbrydol, tlodion fel rheol oedd Ymneillduwyr yr oes yn nghyfrif y byd. Gwelai Lloyd George ei ewythr, yr hwn a berchid gan y werin, yn cael ei ddirmygu gan y gwyr mawr. Gwelai yr enwadau Ymneillduol yn trethu eu hunain i gynal eu gweinidogion, ac yn gorfod talu degwm a threth eglwys at gynal Eglwys y cyfoethog er na thywyllent byth mo'i drws, ac er na alwent am wasanaeth ei chlerigwyr. Ni fedrai hyd yn nod fwynhau breintiau addysg ysgol y pentref, heb wadu o hono yn ei wersi yno yr egwyddorion oeddent o'i fabandod wedi tyfu i fod yn rhan o hono ef ei hun. Ymwybyddiaeth o hyn a'i cymellodd tra eto yn fachgenyn yn yr ysgol i arwain ei gyd-sgoleigion mewn