Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

pechod rhyfygus. Yr oedd Lloyd George yn arfer bod yn arweinydd yn mhob direidi plant y pentref. Wedi gweled yr orymdaith yn diflanu yn mhorth yr Eglwys, penderfynodd y bechgyn dreulio awr y gwasanaeth mewn chwareu "Follow my leader." Yn y chwareu hwn dysgwylir i bob aelod o'r cwmni ddylyn yr arweinydd i ba le bynag yr a, a gwneuthur hefyd bob. peth a wna yntau. Wedi dod at fan yn y goedwig lle tyfai'r coed yn agos i'w gilydd, ac y plethai eu cangenau y naill yn y llall, dringodd Dafydd Lloyd George un o'r coed, a gwnaeth ei ffordd o gangen i gangen, ac o goeden i goeden, yn mrigau'r coed am gryn bellder heb. ddisgyn i'r ddaear o gwbl. Rhaid oedd i'r bechgyn eraill oll ei ganlyn fel Indiaid Cochion ar lwybr rhyfel. Aeth pobpeth yn iawn am dipyn, ond pan yn myned ar hyd cangen gryn uchder o'r ddaear, dygwyddai fod tri o'i ganlynwyr ar yr un gangen ag ef. Bu pwysau eu cyrff, neu eu pechodau, yn rhy drwm i'r gangen; torodd hono oddi tanynt, a syrthiodd y pedwar yn bendramwnwgl i'r ddaear. Diangodd Lloyd George ei hun yn ddianaf, ond torodd un o'i ganlynwyr ei fraich, a mawr fu'r helynt i'w gael adref. Ond ni orfodwyd. plant Ymneillduwyr byth wedyn i fyned i wasanaeth yr Eglwys ar Fercher y Lludw.

Yr ail wrthryfel oedd gwrthod adrodd y Credo. Ar ddydd gwyl yr ysgol cynullai holl fawrion y plwyf i'r ysgoldy i glywed y plant yn adrodd eu gwersi. Yno y deuai y sgweier a'i deulu, yr offeiriad, ac urddasolion eraill. Edrychid ar David Lloyd George fel un o'r dysgyblion dysgleiriaf yn yr ysgol. Dechreuid y sere-