moniau drwy i'r dosbarth adrodd y Credo yn unllais. Ond yr oedd Lloyd George wedi trefnu gyda'r dosbarth nad agorai neb o honynt ei enau i adrodd y Credo y dwthwn hwnw. Felly dosbarth o fechgyn mud a welodd yr urddasolion pan alwyd am y Credo. "Dewch, fechgyn, dewch!" ebe'r Ysgolfeistr druan. "I believe in God the Father" i'w help, debygai. Eithr mudion oeddent oll, a llygaid Lloyd George yn fflamio rhybuddion rhag tori o neb y rheng. Yr oedd gofid yr athraw mor fawr, a pherchid ef gymaint gan y bechgyn, nes i un o'r bechgyn lleiaf godi ei lais rhwng wylo ac adrodd gan ddweyd, "I believe in God the Father"—a tharawodd yr holl ddosbarth mewn yn unllais ag ef, oddigerth yn unig Lloyd George. Y bachgen anufudd oedd William George, ei frawd. Ar ddiwedd yr ysgol galwodd Lloyd George hwynt ato, ac yn eu gwydd hwynt oll rhoddodd i'w frawd y gurfa waethaf a gafodd yn ei fywyd!
Nid oedd ymddygiad y Wladwriaeth, na'r Eglwys, na'r Ysgol, at yr Iaith Gymraeg, ychwaith, yn tueddu i enyn ynddo barch at eu hawdurdod. Carai iaith ei fam yn angerddol. Hi oedd unig gyfrwng ei gymdeithas ef yn y teulu, unig gyfrwng ei addysg Feiblaidd, unig gyfrwng ei ymarferiadau crefyddol. Yn Gymraeg yr ysgrifenai Ceiriog, ac Islwyn, a Mynyddog, eu telynegion a'u caneuon gwladgarol. Yn Gymraeg y pregethai Gwilym Hiraethog, a'i frawd Henry Rees. ac Owen Thomas, a chewri eraill pwlpud Cymru, ar glywed y rhai ni flinai byth. Mor bell ag yr oedd a fynai y bachgenyn newidiai ddau fyd pan groesai