yn ffaith, mai y pethau yr edrychid arnynt gan uchelwyr Cymru gyda dirmyg, ac a gyfrifid i Lloyd George yn anfanteision—sef ei grefydd, a'i iaith—a fuont yn foddion effeithiol i'w ddyrchafu. Yr iaith a alltudid o'r ysgol brofodd y moddion goreu i oleuo ei ddeall ac i goethi ei feddwl; a'r capel dirmygedig oedd yr unig awdurdod yn y lle a drefnai gyfleusderau iddo ef a'i gyd-ieuenctyd ymarfer y ddawn o areithyddiaeth ac i loewi eu galluoedd mewn dadl.
A siarad yn gyffredinol, y capel Ymneillduol, ac nid eglwys y plwyf a ddarparai i ieuenctyd y gynulleidfa, a'r ardal gyfleusderau i ymarfer eu doniau yn y cyfeiriadau a nodwyd. Gwyr darllenydd y llyfr hwn nodwedd arbenig yr Ysgol Sul Gymreig, a'r gwahaniaeth rhyngddi a'i chwaer sefydliad Seisnig. O herwydd egwyddor seiniol orgraff ein hiaith, gellir dysgu darllen Cymraeg mewn llai na chwarter yr amser a gymer i ddysgu darllen Saesneg. Y canlyniad yw fod gwerin Cymru drwy ei newyddiaduron, a'i chylchgronau, a'i llyfrau Cymraeg, yn mhell ar y blaen i'r werin Seisnig mewn gwybodaeth am ddygwyddiadau a dysgeidiaeth y byd. Mae'r gweithiwr Cymreig, mewn canlyniad, yn wr goleu a dysgedig o'i gymharu a'i frawd Seisnig o'r un dosbarth mewn cymdeithas. Meithrinid yr awydd hwn am oleuo'r meddwl ac eangu cylch gwybodaeth, gan y Gymdeithas Lenyddol a geid fel rheol yn mhob ardal yn Nghymru, ac yn aml yn nglyn a phob capel yno. Gyda hyn ceid yn gyffredin Gymdeithasau'r Cymrodorion, a'r cyffelyb, a arweinient y Cymry ieuainc i feusydd pellach o astudiaeth.