Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Manteisiodd Lloyd George yn helaeth ar yr holl gyfleusderau hyn, a daeth yn fuan i gael ei gydnabod fel dadleuydd blaenaf y pentref. Ond nid yn y Cymdeithasau yn unig y dysgai i drin arfau areithyddiaeth. Yn ei ddyddiau ef, ac eto i raddau yn yr ardaloedd gwledig, efail y gof oedd senedd y pentref, a siop y crydd oedd dadleudy philosophi. Dyma ddywed Lloyd George ei hun:

"Gefail y gof yn y pentref oedd fy Senedd-dy cyntaf. Yno nos ar ol nos cyfarfyddem a'n gilydd, gan ymdrin a dyrys bynciau a dyfnion bethau o bob math perthynol i'r byd hwn a'r nesaf, mewn gwleidyddiaeth, duwinyddiaeth, philosophyddiaeth, a gwyddoniaeth. Nid oedd dim yn rhy fawr, dim yn rhy eang a chynwysfawr, i ni ei ddadleu yno."

Mae'r hen efail hono, Senedd-dy cyntaf Lloyd George, wedi ei malurio er's blynyddoedd. Heddyw, nid oes iddi gareg ar gareg ar nis datodwyd. Ond ceir yma ddarlun cywir o'r hen adeilad, yr unig un sydd ar gael, ac na chyhoeddwyd erioed o'r blaen mo hono, ac a dynwyd ychydig ddyddiau cyn gwneyd yr adeilad yn garnedd.

Ac na thybied neb mai Mr. Lloyd George yw unig gynyrch dysglaer efail y gof a siop y crydd. I enwi dim ond un allan o lawer eraill, dyna'r Proffeswr Syr Henry Jones, Prif Ysgol Glasgow, olynydd yr enwog Drummond[1], a gydnabyddir fel un o philosophyddion blaenaf y byd heddyw. Priodola yntau, fel y gwna Lloyd George, ei ddadblygiad meddyliol i'r un cyfryngau syml. Mab ydyw Syr Henry Jones i grydd y pentref ar gyffiniau Dinbych a Maldwyn[2]. Dechreuodd ddadblygu yn yr Ysgol Sul a Chymdeithas Lenyddol ei

  1. Olynydd i Edward Caird oedd Syr Henry —gweler Henry Jones yn y Bywgraffiadur
  2. mab i grydd o Langernyw ger Abergele oedd Syr Henry