Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gapel. Perffeithiwyd y gwaith da mewn dadleuon philosophyddol dwfn yn siop ei dad, y crydd. Nid oes neb ond a gymerodd ran ei hun mewn dadleuon o'r fath o dan gyffelyb amgylchiadau, a fedr fesur maint a gwerth y ddysgyblaeth meddwl a geid gynt, ac a geir eto weithiau, yn y lleoedd syml a dinod hyn. Gwawdia rai acen Gymreig amlwg Mr. Lloyd George a Syr Henry Jones pan siaradant Saesneg, fel pe bae acen Gymreig yn rhywbeth gwaeth nag acen Wyddelig, neu Ysgotaidd, neu ei bod yn annghymwyso dyn at fywyd cyhoeddus. Ond ni cheir heddyw yn y byd nemawr i ddyn yn medru gwell Saesneg, yn meddu gallu greddfol i ddewis y gair mwyaf cymwys, neu i roi y tro mwyaf pwrpasol i frawddeg Seisnig, na'r ddau Gymro enwog hyn.

Felly, pan ddechreuodd Mr. Lloyd George yn ei alwedigaeth fel cyfreithiwr i ddadleu yn y llysoedd, yr oedd ei arfau ganddo yn barod, wedi cael eu gloewi ac wedi cael gosod min arnynt yn y dadleudai syml a nodwyd. Yr oedd mewn gwirionedd felly wedi cael ei arfogi yn llawer gwell at y gwaith oedd ganddo i'w gyflawnu nag ydoedd y graddedigion o'r prifysgolion a'i gwrthwynebent yn y llysoedd.

Er nad oedd y diwygiad crefyddol na'r adfywiad mewn unrhyw fodd yn gwisgo gwedd wleidyddol, eto amlwg yw ddarfod i'r ddau ddylanwadu yn anrhaethol ar ddadblygiad syniadau gwleidyddol Cymru. Anffawd yr uchelwyr oedd fod yr adfywiad yn ymarferol gyfyngedig i'r werin. Hanai y beirdd a'r pregethwyr ysbrydoledig yn mron yn ddieithriad o ddosbarth y