Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(bulldog). Deuai felly yn fynych i wrthdarawiad a'r Fainc Ynadol, am y rhai nid oedd yn malio dim—er fod cyfreithwyr eraill, hyn nag ef, yn swatio bob amser iddynt. Rhaid cofio hefyd fod y Fainc Ynadol y pryd hwnw, o ran eu plaid wleidyddol a'u daliadau crefyddol, yn byw yn y pegwn pellaf oddiwrth y Radical Ymneillduol Lloyd George. Yr oedd eu cysylltiadau cymdeithasol hefyd, a'u cydymdeimlad, yn naturiol gyda'r tir feistri a'r urddasolion y rhai a edrychent ar Radical fel gelyn. Naturiol hefyd oedd i'r werin a ddelid yn rhwyd y gyfraith, redeg at y cyfreithiwr Radicalaidd i'w cael yn rhydd. Felly, nid hir y bu ei swyddfa yn Mhorthmadog cyn dod fel Ogof Adulam gynt i Ddafydd arall, yn fan lle yr "ymgynullodd ato bob gwr helbulus, a phob gwr a oedd mewn dyled, a phob gwr cystuddiedig o feddwl, ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy."

Ac, o dan ddeddfau gorthrymus y Tir a'r Helwriaeth, ceid llawer iawn o'r cyfryw. Eto dosbarth oeddent a ddygent iddo fwy o enw fel cyfreithiwr nag o elw mewn arian. Cydnebydd ef ei hun fod un gwall mawr yn perthyn iddo fel cyfreithiwr. Dywed: "Nid oeddwn byth yn gyru allan filiau cyfreithiwr. Y canlyniad oedd fy mod heb arian." Dywed hefyd mai pan yr ymunodd ei frawd, Mr. William George, ag ef fel cyfreithiwr, o dan yr enw "Lloyd George & George," y dechreuodd pethau wella. "Ac ni ddyoddefodd y ffirm byth wedyn oddiwrth y gwendid hwn," ebe Lloyd George gyda llygad chwareus.