Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn mhlith ei gwsmeriaid cyntaf ceid aml i droseddWr o Ddeddfau Helwriaeth—nid herw-helwyr (poachers), yn gymaint a dynion a dybient y caent hwy wneyd fel y gwnaeth eu tadau o'u blaen am genedlaethau, sef dal ambell i bysgodyn yn yr afon, neu wningen ar y graig neu'r maes, fel help i lenwi'r cwpbwrdd bwyd. Ato ef hefyd y deuai ffermwyr ag oedd ganddynt gwyn yn erbyn y meistr tir neu ei oruchwyliwr; ac eraill a ormesid gan y gwyr mawr. Llwyddodd yn well na neb o'i flaen i fynu chwareu teg i'r bobl hyn, ac enillodd aml i achos a ystyrid yn hollol anobeithiol. Drwy hyn, nid yn unig enillodd y gair o fod yn gyfreithiwr smart, ond daeth ei enw ar flaen tafod pawb fel "un sydd yn siwr o ddod yn mlaen." Ystyrid ef yn arwr y werin—ac nid peth dibwys oedd hyn i ddyn a'i lygad ar y Senedd.

Yr enwocaf o'r achosion a roddwyd i'w ofal yn nechreu ei yrfa fel cyfreithiwr oedd yr un a adwaenir hyd y dydd heddyw fel "Achos Claddu Llanfrothen." Gall amgylchiadau'r hanes ymddangos yn annghredadwy i drigolion yr Unol Dalaethau, lle y ceir perffaith gyfraith rhyddid yn gweithredu. Ond er mor anhygoel y stori, mae yn hollol wir. Dyma'r ffeithiau yn fyr, a chynorthwyant Gymry'r America i gael rhyw syniad am yr ormes a ddyoddefid yn dawel gynt yn yr Hen Wlad, yn ogystal ag am feiddgarwch y cyfreithiwr ieuanc Lloyd George.

Bu farw hen chwarelwr, yr hwn ar ei wely angeu a ddeisyfodd gael gorwedd yn medd ei ferch yr hon a gladdesid yn mynwent y plwyf. Yr oedd Deddf