Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Claddu Osborne Morgan newydd ddod i rym. Cyn cael y Ddeddf hono nid oedd hawl gan neb ond offeiriad y plwyf, neu ei giwrad, i wasanaethu wrth y bedd. O dan Ddeddf Osborne Morgan rhoddid hawl i weinidog Ymneillduol gynal gwasanaeth ar lan y bedd os rhoddid rhybudd ysgrifenedig, a hyny yn mlaen llaw i'r offeiriad. Pan aeth y perthynasau i chwilio am ganiatad i'r hen wr gael ei gladdu yn medd ei ferch, ni soniasant air mai gwasanaeth Ymneillduol a fwriedid ei gynal. Rhoddodd yr offeiriad ganiatad i agor bedd y ferch i dderbyn corff ei thad. Ond pan gafodd y rhybudd swyddogol mai gwasanaeth Ymneillduol a fyddai wrth y bedd, rhoddodd yr offeiriad orchymyni'r torwr beddau i lanw drachefn fedd y ferch, a thori bedd newydd i'r tad mewn congl neillduedig, lle yr arferid claddu'r cyrff a geid ar y traeth wedi eu boddi yn y mor. Pan glywsant hyn, aeth y perthynasau at Lloyd George, yr hwn a'u hysbysodd fod ganddynt hawl yn ol y gyfraith i gladdu'r tad yn meddrod ei ferch. Ar gyfarwyddyd Lloyd George aeth y perthynasau i'r fynwent, ac ail agorasant y bedd cyntaf, yr hwn a gauasai'r offeiriad. Ond pan gyraeddodd yr angladd at y fynwent, cafwyd fod y pyrth wedi cael eu cau a'u cloi, fel nad allai neb fyned i mewn. Yr oedd Ll. G. yn yr angladd, ac archodd ddwyn barau heiyrn a thori'r ffordd i'r angladd fyned i'r fynwent. Gwnaed felly. Aeth yr angladd i'r fynwent, cynaliwyd gwasanaeth Ymneillduol ar lan y bedd, a rhoddwyd yr hen chwarelwr druan i orphwys gyda'i ferch. Dygodd yr offeiriad gyngaws yn erbyn y perthynasau.