Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

na chymerasai y golygfeydd ofnadwy hyny le oni bae am ynfydrwydd yr awdurdodau yn dwyn lleng o heddgeidwaid dyeithr, a llu o filwyr cotiau cochion, i'r ardaloedd gwledig er ceisio dychrynu'r gwladwyr, y rhai oni bae am bresenoldeb y rhai hyn ni fuasent yn debyg o godi cweryl.

Wedi ymgymeryd felly a Rhyfelgyrch Diwygio Deddfau'r Tir, gweithiodd Lloyd George yn galed drosto mewn gwahanol gyfeiriadau. Gall y darllenydd farnu oddiwrth y dyfyniadau isod beth oedd natur golygiadau Lloyd George yn y cyfnod hwnw, 30 mlynedd yn ol. Wrth siarad mewn cyfarfod mawr yn Ffestiniog, pan yr oedd Michael Jones o'r Bala yn gadeirydd, a Mr. Michael Davitt, y Gwyddel enwog, yn brif siaradwr, dywedodd Lloyd George:—

"Yr ydych yn cofio dameg y gwr a syrthiodd yn mhlith lladron. Wel, mae ffermwyr Cymru wedi syrthio yn mhlith lladron yn awr. Ond y mae offeiriaid Cymru yn llawer gwaeth na'r offeiriad yn y ddameg. Myned heibio yr ochr arall heb gymeryd sylw o'r truan a ysbeiliwyd ac a orweddai yn ei waed, a wnaeth yr offeiriad yn y ddameg, ond mae'r offeiriaid yn Nghymru wedi ymuno a'r lladron!"

"Tra bo gweithwyr Cymru yn newynu o eisieu bwyd, ceir ein gwyr mawr yn gwario yr arian a enillir iddynt drwy chwys wyneb y gweithiwr, i brynu i'w helwriaeth y bwyd sydd ar y werin ei angen, gan gyflawnu felly yn llythyrenol y gair fod 'bara y plant yn cael ei daflu i'r cwn.' Ymunwch a'ch gilydd, ac ni eill dim eich gwrthsefyll. Hyderaf yr ymunwch un ac oll yn aelodau o Gyngrair y Tir yn Nghymru."

Mae y dyfyniadau hyn yn nodweddiadol o'i areithiau boreuol, ac, fel y gwelir, adlewyrchir y syniadau hanfodol a geir ynddynt, yn ei Ymgyrch i Ddiwygio Deddfau'r Tir ddwy flynedd yn ol. Ceir yn araeth Ffestiniog un frawddeg arall sydd yn meddu dyddor-