Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

deb neillduol heddyw, pan fo'r holl Ymerodraeth Brydeinig yn dwyn arfau yn erbyn Germani. Dywedodd:—

"Ceir rhai pobl yn beio Mr. Gee am ddwyn Michael Davitt i Gymru. Ac eto ceir y bobl hyn yn myned ar eu gliniau o flaen tywysogion nad ydynt amgen na Germaniaid cymysgryw i grefu arnynt ddod yn llywyddion Eisteddfodau Cymru."

Dair blynedd yn ddiweddarach, pan oedd etholiadau cyntaf Cyngorau Sir wedi gosod yr awdurdod lleol drwy Gymru oll yn nwylaw'r Cenedlaetholwyr Cymreig, dywedodd mewn araeth yn Lerpwl:—

"Ymddibyna Cymru am ei chynaliaeth ar adnoddau'r ddaear, ei hadnoddau mwnawl ac amaethyddol. Perchenogir y ddaear hono gan fonedd Toriaidd. Plaid y torthau a'r pysgod a'r cerdod Nadolig, yw y Blaid Doriaidd yn Nghymru. Canolbwyntiwyd ac angerddolwyd y dylanwadau llygredig hyn oll yn etholiad y Cyngorau Sir. Ymladdai pob sgweier nid yn unig dros Doriaeth, ond dros ei ddyrchafiad personol; a thrwy hyd a lled y Dywysogaeth defnyddiodd Sgweieryddiaeth ei ddylanwad yn ffyrnicach nag erioed o'r blaen. Ond, ar waethaf pob ymgais i'w dychrynu a'i brawychu, glynodd Cymru yn dyn wrth egwyddorion rhyddid gydag ymgyflwyniad godidog. Gymru Fechan Ddewr!"

Dyna gyweirnodau ei areithiau boreuol oll, ac maent wedi aros yn nodau llywodraethol yn ei areithiau politicaidd byth oddiar hyny—Cenedlaetholdeb yn cael ei lywodraethu gan ysbryd gwrthryfel yn erbyn Sgweierlywiaeth ac Eglwyslywiaeth gyda phrofiad helaethach. Daeth yn gliriach ei amgyffrediad am Genedlaetholdeb. Yr oedd yr amser yn aeddfed i wneyd mynegiad croew a phendant ar hawliau cenedlaethol y Cymry. Yr oedd pob peth yn ffafrio hyny. Yr oedd erthyglau Mr. T. E. Ellis (Cynlas) yn y "South Wales Daily News" cyn iddo fyned i'r Senedd,