Tudalen:Rhamant Bywyd Lloyd George.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwelwch fod beichiau wedi cael eu taflu ar gynyrchwyr cyfoeth y dylasai y sawl sy'n gwario'r cynyrch hwn eu dwyn. Rhaid i holl bwysau cynal y dosbarth nad yw yn cynyrchu dim ei hun, ddisgyn ar y sawl fo'n gweithio. Nid oes modd cael arian lawer i ddynion na fynant weithio eu hunain, heb i chwi ostwng cyflogau, ac estyn oriau gwaith, a gormesu a thlodi y rhai fo'n llafurio yn galed am eu bara beunyddiol. Os mynwch gael gwell oriau, gwell cyflog, gwell amgylchiadau bywyd, rhaid gwneyd hyny drwy leihau rhenti enfawr y perchenogion tir, a derbyniadau anferth y cyfalafwyr."

Dyna'r eginyn glas egwan yn dechreu dangos drwy ddaear Cenedlaetholdeb Cymreig, a ddaeth yn dywysen yn araeth enwog Limehouse, ac y dechreuwyd medi y grawn yn Nghyllidebau Mawr Lloyd George, yn ei Ddeddfwriaeth Gymdeithasol, ac yn ei ymgyrch anaddfed i ddiwygio Deddfau'r Tir. Ataliwyd medi'r cynyrch toreithiog gan y Rhyfel Mawr yn Ewrop. Sylwer na bu Mr. Chamberlain erioed yn fwy llym yn ei ymosodiadau ar y dosbarth cyfoethog, y rhai, ebe fe, "nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu," nag y bu Lloyd George, nid yn unig ar ddechreu ei yrfa ond hyd yn mron y dyddiau presenol.

Enillodd y frwydr yn yr etholiad cyntaf gyda mwyafrif o 18 pleidlais yn unig. Gwyddai y byddai rhaid iddo ymladd yn galetach fyth yn yr Etholiad Cyffredinol, a dechreuodd astudio pa fodd i enill drachefn. Sylweddolasai yn hir cyn hyn allu a dylanwad y wasg. Yr oedd ganddo eisoes ran yn rheolaeth papyr bychan yn Mhwllheli, ond nid digon hwnw i ateb ei bwrpas yn awr. Chwiliodd am rywbeth mwy effeithiol, ac i gyraedd cylch eangach. Ffurfiodd